Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gweithiwr iechyd wedi'i gyhuddo o gam-drin i'w weld yn 'ddyn neis'
Mae llys wedi clywed bod dynes sy'n honni bod cynorthwyydd meddygol dan hyfforddiant wedi ymosod arni'n rhywiol wedi ei ddisgrifio yn y gorffennol fel "dyn neis iawn".
Dywedodd hefyd wrth y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd ei bod wedi cytuno y gallai Ieuan Crump wylio nyrs benywaidd yn gosod cathetr.
Wrth roi tystiolaeth o'r tu 么l i sgrin, cadarnhaodd y ddynes ei bod wedi disgrifio'r diffynnydd mewn neges destun at ei phartner fel dyn cl锚n.
Mae Mr Crump, 26, o Gilfach, Caerffili, yn gwadu naw cyhuddiad - chwech o ymosodiad rhyw, a thri o ymosodiad drwy dreiddiad.
Wrth gael ei chroesholi, fe gytunodd y ddynes nad oedd hi wedi gwneud unrhyw g诺yn am y ddau sgan cyntaf a wnaed gan Mr Crump yn ystod ei chyfweliad cyntaf gyda鈥檙 heddlu.
Cafodd y sganiau eu cynnal yn Ysbyty Athrofaol Y Faenor yn Nhorfaen ym mis Awst 202, tra bod y ddynes yn gwella ar 么l llawdriniaeth ar yr abdomen.
Pan ddechreuodd y ddynes ddioddef o boen yn ei bol, clywodd y llys fod nyrs benywaidd a Ieuan Crump wedi trafod gosod cathetr i ddraenio ei phledren a bod y ddynes wedi cytuno y gallai Mr Crump fod yn bresennol yn ystod y broses.
Ar 么l i'r nyrs fenywaidd fethu 芒 gosod y cathetr, dywedodd y ddynes mewn datganiad heddlu bod Mr Crump wedi dweud: "Oes ots gennych chi os ydw i'n rhoi cynnig arni?"
Clywodd y llys wedyn ei bod, yn y datganiad, wedi dweud bod Ieuan Crump wedi gosod bys yn ei fagina ac wedi dweud: "Allwch chi deimlo hynny?"
Wrth gyfeirio at ei datganiad blaenorol i'r heddlu, dywedodd y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad fod y ddynes wedi awgrymu fod y nyrs benywaidd yn bresennol drwy gydol y broses.
Awgrymodd yr amddiffyn nad Mr Crump oedd wedi gosod y cathetr, ond gwrthod hynny wnaeth y ddynes.
Ychwanegodd y ddynes bod y diffynnydd wedi ymosod arni eto pan sganiodd ei phledren dridiau鈥檔 ddiweddarach, a鈥檌 fod wedi ei chyffwrdd yn amhriodol heb wisgo menig.
Clywodd y llys fod y ddynes wedi ceisio cysylltu 芒'r diffynnydd ar 么l iddi adael yr ysbyty.
Wrth gael ei hail-archwilio dywedodd y ddynes ei bod ar ei phen ei hun gydag Ieuan Crump pan geisiodd osod y cathetr, a bod y nyrs wedi gadael er mwyn "nol meddyg".
Clywodd y llys hefyd fod y ddynes wedi gwneud cwyn ar wah芒n am nyrs arall, y credai nad oedd wedi rhoi digon o gyffuriau lleddfu poen iddi yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty.
Mae Mr Crump yn gwadu naw cyhuddiad o ymosod yn rhywiol, gan gynnwys tri honiad o ymosodiad rhywiol drwy dreiddiad..
Mae'r achos yn parhau.