Darganfod Mwy: Shostakovich 5
Cracio’r cod – I. Pumed Shostakovich
Cracio’r cod – I. Pumed Shostakovich
Yr hyn sy’n rhannol gyfrifol am boblogrwydd aruthrol pumed symffoni Shostakovich yw ei bod yn hoelio eich sylw yn llwyr fel darn pwerus eithriadol ddramatig. Ond mae hefyd yn cynnwys digonedd o gyfeiriadau a chodau cerddorol cudd yn ei sgôr, gan gynnwys cyfeiriadau at gariadon a dyfyniadau gan gyfansoddwyr eraill. Ac wedyn wrth gwrs mae’n hyfryd o benagored, gyda’r cwestiwn yn aros yn y diweddglo: ai dathliad uniongyrchol ydi hwn, wedi’i ysgrifennu i dawelu amheuon sensoriaid y Wladwriaeth, neu weithred feiddgar o danseilio?