Main content

Sgript Slam

Mae yn dychwelyd ar gyfer dwy raglen sgetsus hanner awr ym mis Gorffennaf.

Bydd pob rhaglen wedi ei seilio ar bynciau gwahanol, a chi fydd yr awduron.

Dyma gyfle i chi gyfrannu yn uniongyrchol tuag at greu rhaglen sgetsus ar gyfer Radio Cymru. Mae yn agored i bawb, beth bynnag yw eich profiad o ysgrifennu. Os gewch chi syniad am sgets, ewch ati i’w ysgrifennu a'i anfon atom.

Dyma'r themâu ar gyfer y rhaglenni:

  1. Gwyliau
  2. Ennill
  3. Y corff
  4. Cosb
  5. Gwaith

Mae'r pynciau yna er mwyn eich annog i ddechrau meddwl, ond meddyliwch am ffyrdd gwahanol a gwreiddiol. o drin y pynciau.

Yn ogystal rydym yn edrych am benawdau/straeon newyddion byr yn ymwneud ag unrhywbeth sydd ddim yn amserol.

Cofiwch y cyngor

"Peidiwch ysgrifennu am y peth cynta wnewch chi feddwl amdano, bydd pawb wedi meddwl am hwnnw. A pheidiwch ysgrifennu am yr ail beth wnewch chi feddwl amdano, bydd nifer mawr wedi meddwl am hwnnw hefyd. Yn hytrach ewch am y trydydd neu'r pedwerydd peth y meddyliwch amdano, bydd tipyn mwy o siawns bod hwnnw'n wahanol"

Ry' ni'n edrych am sgetsus gwreiddiol, fydd yn cymryd golwg wahanol a gwreiddiol ar y pynciau, peidiwch gadael i'r pynciau eich cyfyngu.

Rhowch sioc i ni! Ond cofiwch gadw'r sgetsus YN FYR. Dim mwy na 2 funud

Strwythur y Gyfres

Bydd y sgetsus yn cael eu perfformioo gan 4 actor - 2 ddyn a 2 ddynes.

Ystyriwch hynny wrth ysgrifennu. Gallwch ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o oed ac acenion, a gallwch amrywio nifer y cymeriadau.

Y Broses

Unwaith i ni dderbyn eich sgetsus, bydd y cynhyrchwyr yn eu darllen.

Os bydd eich gwaith yn cael eu ystyried ar gyfer darlledu, fe wnawn gysylltu â chi.

Ni fyddwn yn cysylltu â chi os nad yw’ch gwaith yn cael ei ddewis ac yn anffodus ni fydd yn bosib cynnig adborth manwl i'r cynigion aflwyddiannus.

Bydd y sgetsus yn mynd trwy broses olygyddol, fydd yn cynnwys adborth a chynigion ar ailddrafftio cyn penderfynu ar gynnwys terfynol pob rhaglen unigol.

Bydd taliad am unrhyw sgets fydd yn cael ei darlledu. Fe gewch y taliad ar ddiwedd y gyfres fel bod modd cyplysu taliadau am fwy nag un sgets.

Ffi

Bydd taliad o:

  • £42 y funud am sgetsus o funud neu fwy
  • £21 am bob 30 eiliad am sgetsus o dan funud o hyd
  • £21 am gyfraniadau byr bachog (oneliners)


Cyngor

Cofiwch mai ar gyfer y Radio y mae'r sgetsus, felly ni ellir dibynnu ar hiwmor gweledol, a bod croeso wrth gwrs i chi nodi unrhyw effeithiau sain ayyb.

Efallai y byddech yn dymuno cymryd cip ar gynghorion un o olygyddion sgriptiau comedi y 成人论坛 sydd yn yr atodiad.


Cyflwyno'ch Gwaith

'Does fawr o reolau i gyfyngu ar y cynnwys. OND mae ychydig o amodau am sut a phryd y dylech gyflwyno’r gwaith.

Ystyriwch rhain yn ofalus

  • Dyddiad cau cyflwyno’r sgetsus yw dydd Llun Mehefin 5ed am hanner dydd – ni fydd yn bosib i ni ystyried unrhyw waith a gyflwynir wedi hyn.

  • Cofiwch gynnwys y canlynol ar linell pwnc eich ebost - Pwnc y sgets - Teitl y Sgets - Eich Enw

  • Os ydych yn cyflwyno gwaith ar gyfer mwy nag un pwnc a wnewch chi sicrhau eu bod yn cael eu hanfon fel gr诺p o sgetsus. E.e. dylai pob sgets ar gyfer pwnc gael eu hanfon mewn ebost ar wahân i sgetsus ar gyfer y pynciau eraill

  • Ar bob tudalen o’ch sgets, dylech nodi y canlynol yn yr header:
    Enw
    Cyfeiriad ebost
    Teitl y sgets
    Y pwnc dan sylw
    Mae hyn yn bwysig iawn yn y broses o dalu.

  • Cofiwch y gall eich gwaith gael ei olygu/addasu gan ein tîm cynhyrchu

  • Wrth ysgrifennu, cofiwch na fyddwn yn gallu cynnwys gormodedd o regfeydd. Byddai perygl i’ch gwaith gael ei ddiystyru os oes gorddefnydd o regfeydd

  • Yn olaf, cadwch eich sgetsus yn fyr ac yn gynnil – yn aml dyna gyfrinach llwyddiant comedi da.

  • Byddwch yn greadigol ac yn wreiddiol a'n bennaf oll MWYNHEWCH


Dylech anfon eich cynigion at sgriptslam@bbc.co.uk cyn 12:00 y.h. Mehefin 5ed