Main content

07/01/2018

Barry Morgan, cyn Archesgob yr Eglwys yng Nghymru, yw gwestai Beti George. Former archbishop of the Church in Wales, Barry Morgan, is Beti George's guest.

Yn wreiddiol o Wauncaegurwen, roedd Barry Morgan yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera cyn mynd i'r brifysgol yn Llundain i astudio hanes, ac yna i Gaergrawnt i wneud gradd mewn diwinyddiaeth.
Cafodd ei ordeinio gan fynd yn giwrad i Ddinas Powys am dair blynedd a bu ar staff Coleg Mihangel Sant, Caerdydd, am ddwy flynedd yn ogystal ag yn darlithio mewn diwinyddiaeth yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd.
Aeth Barry Morgan wedyn yn gaplan i Fangor, gan ddarlithio yn y Brifysgol yno cyn symud i Wrecsam fel offeiriad plwy. Fe'i galwyd n么l i Esgobaeth Bangor, i Gricieth, i fod yn Rheithor ac Archddiacon Meirionydd, cyn ei ethol yn Esgob Bangor yn 1993, yn Esgob Llandaf yn 1999, ac yna'n Archesgob Cymru yn 2003.

Ar gael nawr

48 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 11 Ion 2018 18:00

Darllediadau

  • Sul 7 Ion 2018 12:00
  • Iau 11 Ion 2018 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad