Main content

Wyn Bowen Harries

Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries. Beti George chats to actor Wyn Bowen Harries.

Beti George yn sgwrsio gyda'r actor Wyn Bowen Harries.

Wrth astudio biocemeg yn Aberystwyth, roedd yn treulio llawer iawn o'i amser yn Theatr y Werin, ac aeth i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd i ddilyn cwrs 么l-radd.

Gyda dyfodiad S4C, daeth yn wyneb cyfarwydd i wylwyr y sianel. Mae ei waith ar hyd y blynyddoedd yn cynnwys rhannau yn Dinas, Rownd a Rownd, Pengelli a 35 Diwrnod, ond y ffilm Gadael Lenin yw uchafbwynt ei yrfa.

Yn fwy diweddar, dilynodd gwrs MA mewn Rheolaeth Amgylcheddol Gynaliadwy, gan arwain at sefydlu Pendraw - cwmni sy'n ceisio cyfuno profiadau theatrig gyda hanes a gwyddoniaeth.

Ar gael nawr

50 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 7 Medi 2017 18:00

Darllediadau

  • Sul 3 Medi 2017 12:00
  • Iau 7 Medi 2017 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad