Main content

Hywel Davies

Beti George yn holi Hywel Davies, newyddiadurwr ac un o bobl gwefan Y Papur Gwyrdd. Beti George chats with Hywel Davies about his days as a journalist and his ecological website.

Beti George yn holi Hywel Davies.

Wedi'i eni ym Mhontarddulais, symudodd y teulu i'r gogledd-ddwyrain pan oedd ond yn 18 mis oed, cyn symud yn 么l i'r de flynyddoedd yn ddiweddarach.

Ar 么l blynyddoedd o fod yn newyddiadurwr yng Nghymru, gan gynnwys gweithio i HTV yng Nghaerdydd, symudodd i America. O'r wlad honno y daw ei wraig, Charlotte, ond roedd hi wedi dysgu Cymraeg cyn i'r ddau gwrdd.

Yn 么l yng Nghymru, symudodd y teulu i Dreforys, ac roedd ei waith teledu'n cynnwys Hel Straeon.

Yn 2007, dechreuodd gyhoeddi Y Papur Gwyrdd, sydd bellach yn wefan. Gyda chymorth Charlotte, tynnu sylw at honiadau difrifol gwyddonwyr ynghylch peryglon i'r Ddaear yw'r nod.

Ar gael nawr

51 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 5 Hyd 2017 18:00

Darllediadau

  • Sul 1 Hyd 2017 12:00
  • Iau 5 Hyd 2017 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad