Main content

Osian Williams

Beti George yn sgwrsio ag Osian Williams, sy'n adnabyddus fel llais y band roc Candelas. Beti George chats with Osian Williams, front man of rock band Candelas.

Ers pan oedd yn ifanc, roedd Osian Williams yn gwybod mai cerddor yr oedd am fod. Mae'n teimlo mai dyna'r unig beth y gallai fod wedi ei wneud.

Cafodd ei fagu ar aelwyd gerddorol yn Llanuwchllyn, gan ddysgu gan ei dad sut i chwarae'r drymiau a'r git芒r. Roedd ei dad yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Maldwyn, a sioeau cerdd y cwmni yn rhan o fagwraeth Osian.

Astudiodd mewn coleg cerdd yn Lerpwl, gan adael ar 么l tymor. Doedd e ddim yn gyfforddus yno, nag yn barod i astudio bryd hynny. Wedi gweithio am gwpl o flynyddoedd, aeth i Brifysgol Bangor, gan gwblhau gradd a gradd meistr.

Enillodd Dlws y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn 2015, a mae wedi trefnu cerddoriaeth ar gyfer rhai o gyngherddau'r brifwyl, gan gynnwys un Geraint Jarman yn 2018.

Mae Osian yn adnabyddus fel prif leisydd y gr诺p Candelas, ond fe oedd y drymiwr yn wreiddiol, gan taw'r drymiau oedd ei gariad cyntaf.

Ar gael nawr

47 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 3 Ion 2019 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Big Leaves

    Pryderus Wedd

    • Pwy Sy'n galw?.
    • CRAI.
    • 2.
  • Bon Iver

    Perth

    • Bon Iver.
    • Jagjaguwar.
    • 1.
  • Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr

    Tracsuit Gwyrdd

    • Neb Yn Deilwng 1977 - 1997 Goreuon Cyfrol CD2.
    • SAIN.
    • 13.
  • Cwmni Theatr Maldwyn

    Cadw'r Fflam Yn Fyw (feat. Steffan Prys)

    • Cadw'r Fflam Yn Fyw.
    • Maldwyn.
    • 12.

Darllediadau

  • Sul 23 Rhag 2018 12:00
  • Iau 3 Ion 2019 18:00

Dan sylw yn...

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad