Main content

Ifana Savill

Beti George yn sgwrsio gydag Ifana Savill, awdur rhaglenni Caffi Sali Mali a Pentre Bach. Beti George chats with author Ifana Savill.

Menyw ei milltir sgw芒r yw Ifana Savill, wedi dychwelyd i fyw yn y pentref lle cafodd ei magu.

Mae chwe chenhedlaeth o'r teulu wedi byw ym Mlaenpennal ger Tregaron, a mae'n s么n wrth Beti am hanes rhai ohonynt.

Pan oedd yn ifanc, roedd wrth ei bodd yn darllen, a byddai wedi hoffi astudio celf, ond hyfforddi fel athrawes wnaeth hi'n y pen draw.

Un diwrnod yn unig y parodd ei gyrfa fel athrawes. Roedd yn gwybod yn syth iddi wneud camgymeriad, a fe drodd yn lle hynny at lenyddiaeth ac ysgrifennu.

Cafodd foment o ysbrydoliaeth wrth sgwennu rhaglenni ar gyfer S4C, sef i ddefnyddio rhai o gymeriadau enwog yr awdur Mary Vaughan Jones ar gyfer cyfres deledu newydd o'r enw Caffi Sali Mali.

Daeth rhan o gartre'r teulu'n set ar gyfer Pentre Bach, ac er bod y gyfres honno wedi dod i ben, mae Ifana a'i g诺r wedi troi Pentre Bach yn bentref gwyliau.

Ar gael nawr

48 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 18 Ebr 2019 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • C么r Ysgol Uwchradd Tregaron

    Speed Your Journey

  • Tebot Piws

    Nwy Yn Y Nen

    • Y Gore A'r Gwaetha - Tebot Piws.
    • SAIN.
    • 11.
  • Gwenda Owen A Geinor Haf

    C芒n Bach Y Pentre'

    • Caneuon Bach Y Pentre'.
    • Cyhoeddiadau Gwenda.
    • 1.
  • Tudur Huws Jones

    Angor

    • Dal I Drio.
    • Sain.
    • 1.

Darllediadau

  • Sul 14 Ebr 2019 12:00
  • Iau 18 Ebr 2019 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad