Main content

Buchedd Greta: Gwinllan Wyllt

Cyfle i ail ymweld â drama Saunders Lewis o safbwynt y plentyn dall sy’n cael ei wella gan Garmon. A new spin on Saunders Lewis’ original play by Hanna Jarman and Seiriol Davies.

Buchedd Garmon gan Saunders Lewis oedd y ddrama radio gyntaf yn y Gymraeg i’r ³ÉÈËÂÛ̳ ei chomisiynu yn 1937 ar yr union adeg, mi oedd y dramodydd yn aros am ei achos llys am y tanau ym Mhenyberth. Ar y diwrnod y darlledwyd y ddrama, mi oedd Saunders Lewis yn y carchar.

I nodi canmlwyddiant y ³ÉÈËÂÛ̳, mae Radio Cymru yn ail-ymweld â themâu’r ddrama ond o safbwynt y plentyn dall sy’n cael ei wella gan Garmon yn y ddrama. Drwy gerddoriaeth newydd a hiwmor ffres mae Seiriol Davies a Hanna Jarman yn troi’r ddrama ben i waered ac yn holi pwy sy’n penderfynu beth yw hunaniaeth rhywun? A beth sy’n gwneud Cymru bur?

Cast:
Mared Jarman
Gillian Elisa
Iestyn Arwel
Gruffudd Glyn
Sion Ifan
Carys Eleri

Awdur: Hanna Jarman a Seiriol Davies
Cyfansoddwr: Seiriol Davies
Cynhyrchydd cerddoriaeth: Branwen Munn
Trefnydd cerddorol: Geraint Owen

Ar gael nawr

55 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 19 Rhag 2022 18:00

Darllediad

  • Llun 19 Rhag 2022 18:00

Dan sylw yn...