Main content

Dramateiddiad newydd gan Rhiannon Boyle o'r clasur modern Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard. Rhiannon Boyle's dramatisation of Un Nos Ola Leuad by Caradog Prichard.

Nofel am blentyndod a cholli diniweidrwydd yw Un Nos Ola Leuad wrth i fachgen ifanc orfod dygymod â sawl profedigaeth a phrofiadau - y mwyaf o'r rhain yw salwch meddwl ei fam.

Cast
Bachgen HÅ·n - Owen Alun
Bachgen - Ianto Clement-Evans
Mam - Rhian Blythe
Huw - Gruffudd Beech
Moi - Harri Bale
Meri Eirin/Mam Moi/Mrs Ifans – Judith Humphreys
Tad Wil Bach Plismon – Gwion Morris Jones
Preis Sgwl – Richard Elfyn

Dylunydd Sain - Nigel Lewis
Cydlynydd Cynhyrchiad - Eleri Sydney McAuliffe

Mae fersiwn Saesneg o'r ddrama hon ar Radio 4 ar Fehefin 4ydd am 3.00 y.h. ac ar ³ÉÈËÂÛ̳ Sounds wedi hynny.

Cyd-gynhyrchiad ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru/Radio 4 a ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Wales, wedi ei gyfarwyddo gan Ffion Emlyn ac Emma Harding.

Ar gael nawr

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 11 Meh 2023 16:00

Darllediad

  • Sul 11 Meh 2023 16:00