Main content

Yassa Khan

Beti George yn sgwrsio gyda Yassa Khan, cyfarwyddwr ffilm. Beti George chats to Yassa Khan,film director from Caernarfon.

Yassa Khan, cyfarwyddwr ffilmiau o Gaernarfon yn wreiddiol yw gwestai Beti George.

Mae Yassa Khan yn dweud bod rhannau o’i fagwraeth yn ei atgoffa o’r ffilm maffia Goodfellas – ond yng Nghaernarfon, nid Efrog Newydd. Roedd ei Dad yn lleidr banc adnabyddus o Gaernarfon, ac fe dreuliodd flynyddoedd yn y carchar trwy gyfnod plentyndod Yassa.

Doedd tyfu i fyny yn y dre' yn yr 1980au ddim yn hawdd iddo gyda'i dad i mewn ac allan o garchar - ac i wneud pethau'n anoddach, roedd o’n fachgen o dras Pakistani ac yn hoyw.

Ond mae ei fagwraeth liwgar wedi arwain ato'n gweithio fel cyfarwyddwr sydd wedi ffilmio'r Pet Shop Boys, Vivienne Westwood a Billie Eilish. Bu hefyd yn gweithio gyda chynllunwyr ffasiwn Gucci a YSL.

Yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio ar ffilm Pink, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ffilm hir Daffodil, sydd yn ddarlun o hanes ei fagwraeth.

22 o ddyddiau ar ôl i wrando

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Dydd Iau Diwethaf 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Terence Trent D’Arby

    Sign Your Name

    • Fantastic 80's - 3 (Various Artists).
    • Sony Tv/Columbia.
    • 21.
  • Prince

    Partyman

    • Batman.
    • Warner Records.
    • 4.
  • Amddiffyn

    Hassan

  • Philip Glass

    Pruit Igoe

    Lyricist: Philip Glass.
    • Koyaanisqatsi (Original Soundtrack Album From The Film).
    • Island Records.
    • 4.

Darllediadau

  • Sul 8 Medi 2024 18:00
  • Dydd Iau Diwethaf 18:00

Dan sylw yn...

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad