Main content

Galar

Y tri teulu yn disgrifio sut mae delio gyda'r galar.

Cyfweliadau gyda rhieni Bethan, Chris (cymar Alex) a rhieni Heledd. CHRIS – Pe na fyddai wedi bod drwy'r cwnsela a dechrau siarad am y digwyddiad, byddai wedi marw erbyn hyn. Pan fo'r farwolaeth yn un drawmatig, mae pobl yn hael iawn eu cyngor. Y cyngor gorau yw peidio â chymryd pob cyngor ormod o ddifrif. TAD BETHAN – Yn dweud ei bod yn bwysig peidio â bod ofn siarad. 'Does dim ots os ydych chi'n torri i lawr, achos mae'n mynd i ddigwydd’. Mae 11 mlynedd ers i Bethan farw, ac maen nhw'n dal i gael 'plyciau o dorri i lawr.' Mae'n dweud na ddylid bod ofn torri i lawr ac na ddylid cuddio'r galar 'chwaith. MAM BETHAN – Dylid cymryd pob diwrnod fel y daw ac na ddylid gadael i unrhyw un eich gwthio i wneud unrhyw beth nad ydych chi eisiau ei wneud. Dylid peidio â chynllunio. Dylai'r person gael gwneud fel y mynnan nhw nes byddan nhw'n teimlo'n gyfforddus i symud ymlaen. MAM A THAD HELEDD – Mae'n rhaid i chi siarad am y person, pethau sydd wedi digwydd, a chofio sut berson oedden nhw. Maen nhw'n dweud bod ganddyn nhw lawer o atgofion hapus, ac mae ail-fyw'r profiadau hynny'n dod â gwen i'w hwynebau nhw. Maen nhw'n edrych ar y lluniau ar y wal ac yn siarad â Heledd drwy'r lluniau. Mae ei thad yn dweud, 'Fel 'na fyddai Heledd moyn i ni 'neud, wy’n gweud wrth y wraig yn aml, ac mae'r wraig yn cytuno 'da fi.' Cyfres ' O'r Galon' a ddarlledwyd gyntaf ar S4C ar 7 Ebrill 2007

Release date:

Duration:

2 minutes

Featured in...

More clips from Clipiau Dysgu