Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Dachwedd 2021
Buzz Aldrin, Clytiau, Meicroblastigau, Edna Jones a Fflur Dafydd
1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn
Mae ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o’r enw ‘Ein Planed Nawr’. Un o’r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd na defnyddio’r rhai sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy’n defnyddio’r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr…
Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisis
Clytiau/cewynnau Nappies
Aml-ddefnydd Multiple use
Amgylchedd Environment
Ymchwil Research
Buddsoddi To invest
Arbrofi To experiment
Ymrwymo To commit
‘Ta beth Beth bynnag
Cyflwr Condition
Tueddu i hyrwyddo Tends to promote
2. Ifan Evans – Gwobr i Edna Jones
Dyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos Fawrth am 6pm. Ac os dych chi eisiau clywed mwy o’r sgwrs yma ewch draw i wefan bbc sounds, neu am ragor o raglenni sy’n sôn am yr amgylchedd ewch at y wefan bbc.co.uk/einplanednawr
Unwaith eto mae rhaglen Ifan Evans yn dweud ‘Diolch o Galon’ i rywun arbennig sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eu hardal, neu glwb, neu mewn cymdeithas arbennig. Wythnos diwetha aeth Ifan i Ynys Môn, i roi tlws Diolch o Galon i Edna Jones, Trefnydd CFFI yr Ynys
Tlws Trophy
Syfrdanu Astounded
Gweithgar Hardworking
Ces i fy nychryn I was shocked
Enwebiad Nomination
Talcen caled A hard grafft
Cyn-aelodau Former members
Mewn chwinciad In a jiffy
Becso Poeni
3. Newid Hinsawdd Taid a Fi – Micro Plastic
...ac os dych chi’n nabod rhywun dach chi’n meddwl dylai ennill tlws ‘Diolch o Galon’, cofiwch gallwch chi anfon enwebiad at Ifan drwy e-bost ar ifan@bbc.co.uk
Yn y rhaglen ‘Newid Hinsawdd :Taid a Fi’ mae Leisa Gwenllian yn mynd ar daith i gyfarfod rhai o’r bobol ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith difyr ac phwysig i wella’r amgylchedd, yng nghwmni ei thaid, neu dad-cu, y naturiaethwr Duncan Brown. Yn y clip yma, mae Leisa yn cael sgwrs am feicroblastig gyda Nia Jones a’r Dr Dei Huws o Brifysgol Bangor.
Hudolus Magical
Mor brydferth So beautiful
Uwch Ddarlithydd Senior lecturer
Gwyddorau Môr Marine Science
Gwasgariad Dispersal
Llygredd Pollution
Amsugno To absorb
Tanwydd Fuel
Ynni Energy
Lleihau To reduce
4. Rhys Mwyn – Fflur Dafydd
Pwy fasai’n meddwl bod meicroblastig mor gyffredin on’d ife? Mae e yn ein siwmperi hyd yn oed! Roedd yr awdures Fflur Dafydd gyda Rhys Mwyn wythnos diwetha a buon nhw’n rhannu ei dewisiadau o draciau ffync. Yn ystod y sgwrs soniodd Fflur sut gwnaeth hi ddewis caneuon ar gyfer y gyfres deledu ‘Amgueddfa’ oedd ar S4C eleni, er mwyn cael rhoi rhagor o haenau i’r cymeriadau…
Cyffredin Wide-spread
Haenau Layers
Cymeriadau Characters
Golygfeydd Scenes
Drych Mirror
Dylanwadau Influences
5. Geraint Lloyd – Randall Bevan
..a’r newyddion da ydy bod cyfres arall o Amgueddfa ar y ffordd, ac mae Fflur wrthi’n sgwennu’r sgript ar hyn o bryd.
Randall Bevan o Ipswich sydd yn gyn-drampolinydd, ac yn 88 oed oedd yn cadw cwmni i Geraint LLoyd nos Fercher, a soniodd Randall ei fod wedi derbyn neges arbennig gan ffrind enwog iawn – pwy oedd e tybed?
Halais i Anfones i
Gynnau fach A moment ago
Tylwyth Teulu
Ŵyr a ŵyres Grandson and grandaughter
6. Clip Dros Ginio
Randall a Buzz – wedi dyna stori dda on’d ife? Wythnos diwetha, cyhoeddodd Wales Online restr o 15 o Gymry du dylen ni roi sylw iddyn nhw. Roedd Sian Jones, y steilydd gwallt 22 oed o Gaerdydd, yn un o’r pymtheg yma. Cafodd hi sgwrs gyda Catrin Haf Jones ar raglen Dros Ginio, a dyma hi’n sôn am ei harbenigedd hi mewn gwalltiau unigolion duon…
Unigolion duon Black individuals
Cyhoeddi To publish
Arbenigedd Expertise
Penodol Specific
Yn cynnwys Including
Mor brin So scarce
Gradd Degree
Fy synnu i Surprises me
Hyfforddi Training
Podlediad
-
Y Podlediad Dysgu Cymraeg
Podlediadau amrywiol ar gyfer pobol sy’n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd.