Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mawrth 8fed 2022

Ieuan Rhys, Non Evans, Rebecca Morris, Llyfrau Plant, Shirley Valentine a helynt Trystan

Bore Cothi Ieuan Rhys
I le fasech chi'n licio mynd ar fordaith? Mwynhau'r haul 'falle yn y Carib卯, neu teithio o gwmpas ynysoedd M么r y Canoldir? Nid dyna oedd ateb y diddanwr Ieuan Rhys i gwestiwn Heledd Cynwal fore Llun...
Mordaith - Cruise
Diddanwr - Entertainer
Gwlad yr I芒 - Iceland
Taro deuddeg (idiom) - To strike a chord
Twym - Poeth
Chwysu - To sweat
Trwchus - Thick
Tirwedd - Lanscape
Oefad - Nofio
Trais - Crime
Helen Cynwal yn cadw sedd Shan Cothi'n gynnes ac yn holi Ieuan Rhys am ei fordaith ddelfrydol.

Bore Sul Non Evans
Bore Sul cafodd Iwan Griffiths sgwrs efo'r cyn chwaraewr rygbi Non Evans a s么n i ddechrau am ei magwraeth yn y Fforest ger Abertawe. Mae Non wedi ennill 87 o gapiau dros Gymru a hefyd wedi cystadlu dros ei gwlad mewn Jiwdo, Reslo a chodi Pwysau!
Delfrydol - Ideal
Cyn chwaraewr - Former player
Magwraeth - Upbringing
Lan - Fyny
Dodi - Rhoi
Ro'n i'n dwlu - Ro'n i wrth fy modd
Codi pwysau - Weightlifting
Ffurflen gais - Application form
Ymgeisio - To apply
Menywod - Merched
Non Evans oedd honna'n s么n am ei magwraeth a hynny'n esbonio llawer am Non Evans, yr oedolyn sy'n hynod o heini.

Troi'r Tir
Rebecca Morris o Gasblaidd, Sir Benfro sy'n siarad yn y clip nesa. Mae hi'n ffermio efo'i phartner ac yn godro defaid er mwyn gwneud caws defaid. Mae'r ddau newydd ddechrau busnes Ewenique Spirits lle mae nhw'n creu fodca sydd a 'whey', neu maidd, ynddo fo, sef y gwastraff sydd i'w gael ar 么l gwneud caws o'r llaeth defaid.
Godro - To milk
Maidd - Whey
Llaeth - Llefrith
Gwastraff - Waste
Sefydlu - To establish
Arbrofi - To experiment
Cyfrinach - A secret
Wel, whe-he a phob lwc efo'r fodca arbennig ynde?

Gwyl lyfrau
Llyfrau plant oedd yn cael sylw Hanna Hopwood a'i gwesteion ar Gwneud Bywyd yn Haws nos Fawrth, a buodd Jo Knell yn s么n am y cynghorion mae hi wedi eu paratoi ar gyfer rhieni a gofalwyr sy'n dysgu Cymraeg, fel rhan o 糯yl Ddarllen 'Amdani'
Cynghorion - Tips
Mas - Allan
Datblygiad iaith - Language development
Ynganiad - Pronunciation
Mwya poblogaidd - Most popular
I glywed rhagor o sgwrs Hanna Hopwood efo Jo Knell fel rhan o 糯yl Ddarllen 'Amdani' Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol, ewch i chwilio am Gwneud Bywyd yn Haws yn ap 成人论坛 Sounds

Stiwdio Manon Eames
Ar Stiwdio nos Lun diwetha, mi roedd Nia Roberts yn sgwrsio efo'r awdures Manon Eames am gynhyrchiad Cymraeg newydd o glasur Willy Russell, "Shirley Valentine". Nid dyma'r tro cynta i Manon addasu'r ddrama hon ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac fel mae hi'n egluro, y tro 'ma mae hi wedi wedi newid cyfnod a lleoliad y ddrama.
Cynhyrchiad - Production
Addasu - To adapt
Cyfnod a lleoliad - Period and location
Perthnasol - Relevant
Gwirionedd - Truth
Degawd - Decade
Trafferth - Difficulties
Ail-asesu - To reassess
Unigrwydd - Loneliness
Cynulleidfa - Audience
Cyffyrddiadau - Touches
Manon Eames yn fan'na yn s么n am 'Shirley Valentine ' drama Gymraeg sydd yn teithio theatrau Cymru ar hyn o bryd.

Trystan ac Emma
Dach chi wedi gwneud rhywbeth gwirion erioed, a theimlo'n r锚l ff诺l wedyn? Dyna ddigwyddodd i Trystan pan oedd o'n perfformio efo Band Pres Deiniolen. Dyma fo'n dweud yr hanes...
Pres - Brass
Llwyth - Loads
Dibrofiad tu hwnt - Extremely inexperienced
Sul y Cofio - Remembrance Sunday
Y gofgolofn - The monument
Deutha fi - Dweud wrtha i
Yn ddistawach - Quieter
Atgofion - Memories

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

21 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 成人论坛 Radio Cymru,

Podlediad