Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill 26ain 2022

Ciwcymbyrs, Eden, Siarcod, Adar, Mererid a Hannah Hopwood a ffatri Laura Ashley.

Bore Cothi - Ciwcymbyr
Mae na ddywediad Saesneg 'cool as a cucumber' yn does? Ond beth sydd y tu 么l i'r dywediad hwn tybed? Alison Huw fuodd yn sgwrsio am hyn efo Shan Cothi...

Sail wyddonol - A scientific basis
Oeri'r gwaed - Cools the blood
Ar drothwy - The onset of
Cynnwys - To include
Dyfrllyd - Watery
Unigryw - Unique
Si - A rumour
Rhesymol - Reasonable
Rhwydd - Hawdd
Cnwd - Crop

Dyna ni felly - ewch ati i blannu'ch ciwcymbers!

Eden
Cafodd y band Eden ei ffurfio yn 1996 ac ar 么l cyfnod o beidio perfformio mi ddaethon nhw'n 么l at ei gilydd yng ngwyl fawr Caerdydd, Tafwyl, yn 2016. Cafodd hyn ei ddisgrifio fel 'comeback' y ganrif ar Golwg 360! Roedd Rachael Solomon yn aelod o'r band a hi oedd gwestai Iwan Griffiths fore Sul. Dyma hi'n s么n am y profiad o berfformio yn Tafwyl...

Man a man - Might as well
Ymateb - Response
Symudiadau - Movements
Cynulleidfa - Audience
Synnu - To be surprised
Cysylltu - To connect

Www, caneuon newydd gan Eden - rhywbeth i edrych ymlaen ato ynde?

Aled Hughes Siarcod
Ar raglen Aled Hughes clywon ni Lowri O'Neill, myfyrwraig bywydeg ym Mhrifysgol Abertawe, yn s么n am ei phrofiadau yn nofio efo siarcod yn Hawaii. Oedd hi mewn cawell? Oedd yna reolau am sut i ymddwyn wrth nofio efo nhw? Dyna oedd rhai o gwestiynau Aled i Lowri...

Bywydeg - Biology
Cawell - Cage
Ymddwyn - To behave
Bwystfil - Monster
O hyd - Length
Yn y b么n - Basically
Cystadleuaeth syllu - Staring competition
Ymddangos - To appear to
Ysglyfaethod gweithredol - Predator
Yn 么l pob golwg - Apparently

Merch ddewr iawn ydy Lowri O'Neill ynde?

Bore Cothi - deg uchaf adar
Dan ni'n aros efo byd natur r诺an ond efo rhywbeth dipyn llai peryglus na siarcod sef yr adar sy'n dod i'n gerddi yng Nghymru. Gofynnodd yr RSPB i bobl nodi pa adar oedden nhw'n eu gweld yn eu gerddi ac mi wnaeth Daniel Jenkins Jones rannu deg ucha yr arolwg ar raglen Shan Cothi...

Arolwg - Survey
Crybwyll - To mention
Ymdrech - Attempt
Ji-binc - Chaffinch
Pioden - Magpie
Nico - Goldfinch
Ysguthan - Woodpigeon
Drudwy - Starling
Titw Tomos las - Blue tit
Aderyn y to - House Sparrow

Aderyn y to yn ennill unwaith eto, chwarae teg ynde?

Dros Ginio - Mererid a Hanna
Mam a merch oedd gwesteion Dau cyn Dau Dewi Llwyd bnawn Llun diwetha a'r ddwy yn byw yn ardal Caerfyrddin, sef y prifardd Mererid Hopwood a'i merch, y cyflwynydd radio a theledu Hanna Hopwood. Nid yng Nghymru cafodd Hanna ei geni a dyma Mererid yn dweud rhagor am hynny...

Prifardd - National crowned/chaired poet
Cyflwynydd - Presenter
Tystysgrif geni - Birth certificate
Yn benderfynol - Determined
Sylweddoli - To realize
Y cyfnod Llundeinig - The London period

...a dyna beth da bod y teulu wedi symud i Gymru ynde, fel ein bod ni'n medru gwrando ar Hanna'n cyflwyno Gwneud Bywyd yn Haws ar Radio Cymru.

Y Ffatri Ddillad
Roedd ffatri ddillad Laura Ashley yn gyflogwr pwysig yng ngogledd Powys gan roi gwaith i tua wyth cant o bobl yr ardal ar un adeg. Buodd Eddie Bebb o Lanidloes yn gweithio i'r cwmni am 37 o flynyddoedd a chafodd Sian Sutton sgwrs efo am ddyddiau cynnar a llewyrchus Laura Ashley...

Cyflogwr - Employer
Llewyrchus - Prosperous
Hwb - A boost
Ysbryd - Spirit

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 成人论坛 Radio Cymru,

Podlediad