Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 10fed 2022

Anne Henrot, Ezzati Ariffin, Carys Mai Hughes, llofruddiaeth Dafydd Lewis a Cefyn Burgess

Bore Cothi Anne Henrot
Un o Wlad Belg ydy Anne Henrot ac mi ddechreuodd ddysgu Cymraeg ym 1984 ar 么l bod ar wyliau i Gymru. Mi wnaeth hi deithio ar hyd a lled Cymru pan oedd hi yma - o Gaerdydd i Fangor. Mae hi wedi ymweld 芒 Chasgwent sawl gwaith ac mae wrth ei bodd gyda'r ardal.
Dyma Anne yn dweud wrth Shan Cothi sut a pham dechreuodd hi ddysgu Cymraeg.

Gwlad Belg - Belgium
Yn rhyfeddol - Wonderous
Ail-ddechreuais i - I re-commenced

Anne Henrot, fuodd yn Nant Gwrtheyrn am bythefnos yn unig, a heblaw am hynny wedi dysgu Cymraeg yn ei chartref yng Ngwlad Belg. Gwych ynde?

Aled Hughes ac Ezzati Ariffin
Mae E'zzati yn dod o Brunei yn wreiddiol, ond mae hi'n disgrifio ei hun fel "merch Bruneian yng Nghymru" erbyn hyn. Buodd hi'n egluro wrth Aled Hughes mwy am yr 诺yl Hari Raya Aidilffitri sydd yn dathlu diwedd cyfnod ymprydio Ramadan.

G诺yl - Festival
Ymprydio - Fasting
Am wn i - As far as I know
Canolbwyntio - To concentrate
Dihuno - Deffro
Bennu - Gorffen
Dathliad - A celebration

A phob hwyl i bawb fydd yn dathlu Hari Raya Aidilffitri, neu Eid al-Ffitr iid ffitr, ynde?

Gwneud Bywyd yn Haws - Carys Mai Hughes
Mae Carys Mai Hughes yn gweithio o'i champerfan yn hytrach nag o adre er mwyn teithio Ewrop a gwneud y gorau o bob eiliad o'i hamser hamdden. Dyma hi ar Gwneud Bywyd yn Haws yn sgwrsio o lan Llyn L茅man...

Darlledu - To broadcast
Ar bwys - Wrth ymyl
Rhyngwladol - International
Diflasu - To become weary of
Gwenu - Smiling
Sa i'n mynd - Dw i ddim yn mynd

Dyna'r bywyd ynde - mae gweithio o'r camperfan yn gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys Mai Hughes dw i'n si诺r o hynny.

Papur Ddoe
Mae Elin Tomos yn dilyn hanesion o hen bapurau newydd yn y gyfres Papur Ddoe. Mae hi'n dod ar draws sawl stori ddifyr fel hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis cafodd ei saethu yn ei ben gyda phistol llaw yn 1844. Dyma'r hanesydd Erin White i roi ychydig o'r hanes.

Llofruddiaeth - Murder
Yn dwyn yr enw - Named
Tyddyn - Smallholding
Cynnyrch - Produce
Y Chwyldro Diwydiannol - The Industrial Revolution
Swm sylweddol - A considerable amount
Tollborth - Toll gate
Ymosodiad gan ladron - An attack by thieves
Tystion - Witnesses
Daethpwyd o hyd - Was found
Cwato - Cuddio

Hanes llofruddiaeth Dafydd Lewis yn fan'na ar Papur Ddoe.

Ifan Evans a Nigel Owens
Un o'r pethau unigryw ym myd rygbi Cymru ydy timau cymunedol o bob oedran yn cael chwarae rowndiau terfynol eu cystadlaethau yn y stadiwm cenedlaethol yng Nghaerdydd. Er bod Nigel Owens wedi ymddeol fel dyfarnwr rygbi, buodd o yn y Stadiwm yn helpu efo'r gemau. Cafodd Ifan Evans sgwrs efo fo am y digwyddiad...

Dyfarnwr - Referee
Rowndiau terfynol - Finals
G锚m y gymuned - The community game
Rowndiau terfynol - Finals
Cyfleoedd - Opportunities
Yr Undeb - The Union (WRU)
Unigryw - Unique
Profiad - Experience
Wastad - Always

Braf gweld Nigel yn helpu'r g锚m gymunedol yn tydy?

Stiwdio Cefyn Burgess
Mae'r artist Cefyn Burgess yn cofio arian yn cael ei gasglu yn yr ysgol Sul ers talwm ar gyfer cenhadaeth yr Eglwys Bresbyteraidd yn Casia India. Cyn y cyfnod clo aeth o draw i Casia er mwyn cael dysgu mwy am bobl y rhan yna o'r byd, ac mae o wedi creu arddangosfa artistig o'i brofiadau yno. Aeth Elinor Gwynn draw i Storiel, Bangor i weld yr arddangosfa a chael gair efo Cefyn am y gwaith. Os dach chi yn yr ardal o gwbl mae'r arddangosfa ymlaen tan yr 2il o Orffennaf 2022.

Arddangosfa - Exhibition
Casgliad - Collection
Bylchau cenhadol - Missionary collection boxes
Yn gyfarwydd - Familiar
Dychymyg - Imagination
Yn fy oed ac amser - At this stage in my life
Ehangach - Wider
Talaith - State

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 成人论坛 Radio Cymru,

Podlediad