Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 14eg 2022

Dafydd Iwan, Arfon Wyn, Geraint Davies, Gemau'r Gymanwlad a Fflamingos Pinc Trystan.

Dros Ginio Dafydd Iwan
Mi fydd t卯m p锚l-droed Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd yn Qatar fis Tachwedd ar 么l i'r t卯m guro Wcr谩in yn Stadiwm Dinas Caerdydd wythnos diwetha. Mi wnaeth y crysau coch yn wych ond roedd canu'r Wal Goch yn bwysig hefyd yn enwedig wrth iddyn nhw ganu 'Yma o Hyd' efo Dafydd Iwan. Dyma Dafydd yn s么n am y profiad ar Dros Ginio

Breuddwyd - A dream
Cyfuno - To combine
Manteisio ar y cyfle - Taking advantage of the opportunity
Bwriadol - Intentional
Mynegi teimladau - Expressing the feelings
Rhyfeddol - Wonderful
Cyfraniad - Contribution
Trefnwyr cefn llwyfan - Backstage organisers
Profiad bythgofiadwy - An unforgettable experience

Ac mi gyrhaeddodd y g芒n 'Yma o hyd' rhif 1 yn siart I-Tunes wythnos diwetha - anhygoel ynde?

Arfon Wyn
Un o arwyr Cymru yn y g锚m oedd y g么l-geidwad, neu'r g么li, Wayne Hennessey. Aeth Wayne i ysgol gynradd Biwmares pan oedd o'n blentyn a dyma i chi Arfon Wyn, oedd yn bennaeth yr ysgol ar y pryd, yn s么n wrth Dylan Ebenezer am sut dechreuodd gyrfa b锚l-droed Wayne...

Pennaeth - Head
Hogyn dymunol - A likeable boy
Dihyder - Lacking in confidence
Dirprwy - Deputy
Syth bin - Straight away
Menyg - Gloves
Wedi dotio - Wrth ei fodd
Y gamp - The sport

Diolch i staff Ysgol Biwmares ynde, am roi'r cyfle cynta i Wayne Hennessy.

Beti a Geraint Davies
Geraint Davies oedd gwestai Beti a'i Phobol dydd Sul
Eleni mae Geraint wedi ymddeol fel cynghorydd sir dros ardal Treherbert yng Ngwm Rhondda ar 么l iddo fo wneud y gwaith am dros 30 mlynedd. Buodd o hefyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda rhwng 1999 a 2003, roedd o'n fferyllydd yn y cwm am flynyddoedd maith a hefyd yn aelod o'r clwb tenis lleol. Dyn prysur iawn felly...

Aelod Cynulliad - Assembly member
Fferyllydd - Chemist
Cyflwyniad - Introduction
Sbort mawr - Llawer o hwyl
Parhau eich bywyd - Prolong your life
Ymennydd - Brain
Poblogaidd - Popular
Rhyfedd - Strange
Wedi cwympo - Had fallen
O ganlyniad - As a consequence

Diddorol ynde - Covid wedi gwneud i bobl feddwl mwy am eu hiechyd a'u ffitrwydd.

Aled Hughes ac Alex Harry Gemau'r Gymanwlad
Mi wnawn ni aros ym myd y campau r诺an ond y tro 'ma efo Gemau'r Gymanwlad. Bydd y gemau'n cael eu cynnal yn Birmingham ddiwedd mis Gorffennaf ac un o'r athletwyr fydd yn mynd i Birmingham ydy Alex Harry, sy'n dod o Lanelli yn wreiddiol, ac sy wedi cael ei dewis yn rhan o dim reslo Cymru. Dyma flas i chi ar y sgwrs rhwng Aled Hughes ac Alex...

Gemau'r Gymanwlad - The Commonwealth Games
Pwysau - Weight
I gael dy ystyried - For you to be considered
Cynrychioli dy wlad - Representing your Country

Aled Hughes a Non Stanford
Pob lwc i Alex ynde a hefyd i Non Stanford sydd yn rhan o d卯m triathlon Cymru. Pa fath o baratoadau mae hi wedi eu gwneud ar gyfer Gemau'r Gymanwlad tybed? Aled Hughes oed yn holi eto...

Paratoadau - Preparations
Canolbwyntio - To concentrate
Cic lan y pen-么l - A kick up the backside
Cydwybod - Conscience

Geraint Lloyd a Nia Medi
Wel, dan ni wedi s么n am b锚l-droed, tenis, athletau ac r诺an dan ni'n mynd i glywed hanes criw bach sydd am seiclo o Lundain i Amsterdam - Fflamingos Pinc Trystan. Mae'r pum 'fflamingo' am wneud y daith er cof am eu ffrind Trystan Gwyn Rees fuodd farw dair blynedd yn 么l. Geraint Lloyd fuodd yn holi un o'r criw, Nia Medi...

Er cof am - In memory of
Cymeriad lliwgar - A colourful character
Tyle - Hill
Galar - Bereavement
Cyfnod tywylla ein bywydau - Darkest period of our lives
Doniol - Amusing
Cynghori - To advice

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 成人论坛 Radio Cymru,

Podlediad