Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 29ain Mehefin 2022

Aled Roberts, Beatles ym Mhortmeirion, Campio,Croquet, Aled a Neil Rosser a Catrin Finch

Beti a'i Phobol Aled Roberts

Ar Beti a'i Phobol ddydd Sul, mi gaethon ni gyfle i ail-wrando ar sgwrs Beti efo Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, fuodd farw mis Chwefror eleni yn 59 mlwydd oed. Cafodd Aled ei eni a'i fagu yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, a dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae o'n esbonio wrth Beti beth oedd o'n ei weld yn heriau'r swydd a sut oedd o'n eu hwynebu...

Heriau - Challenges

Hwyrach - Efallai

Arweinydd cyngor - Council leader

Hamddenol - Leisurely

Gwthio - To push

Awyddus - Eager

Adlewyrchu - To reflect

Cryfder - Strength

Twf aruthrol - Huge growth

Drwy gyfrwng - Through the medium of

...ac mae colled mawr i Gymru ac i'r Gymraeg ar 么l Aled Roberts.

Aled Hughes ac Meurig Rees Jones

Buodd Syr Paul McCartney yn perfformio yn Glastonbury wythnos diwetha ac yntau newydd ddathlu ei benblwydd yn 80. Ond oeddech chi'n gwybod bod y Beatles yn ymwelwyr cyson 芒 Phortmeirion? Meurig Rees Jones ydy Rheolwr Lleoliadau Portmeirion, a buodd o'n siarad efo Aled Hughes fore Llun am gysylltiad y canwr a'r ardal dros y blynyddoedd

Rheolwr Lleoliadau - Location Manager

Y cyswllt - The contact

Bythynnod hunanarlwyo - Self catering cottages

Ar les byr - On a short lease

Gatws - Gatehouse

A dyna i chi hanes pobl enwog yn mwynhau gwyliau moethus yn y chwedegau ym Mhortmeirion.

GBYH Campio

Math gwahanol iawn o wyliau sy nesa wrth i Hanna Hopwood holi beth sy'n gwneud bywyd yn haws wrth fynd i wersylla. Kelly Morris sy'n esbonio beth ydy ap锚l y math yma o wyliau...

Moethus - Luxurious

Gwersylla - Camping

Cyfeillgar - Friendly

Mas tu fas - Outside

Dw i'n dwlu mynd - Dw i wrth fy modd yn mynd

Chwarae aboiti - Playing around

Sbort - Hwyl

Hala amser - Treulio amser

Llanw - Llenwi

Ia, mae gwersylla'n sbort, tydy, ond i'r tywydd fihafio ynde?

BORE COTHI CROQUET 2206

Mae'n debyg fod y g锚m croquet wedi dod yn fwy poblogaidd yn dilyn cyfresi fel Bridgerton ac un o'r rhai sy wedi dechrau chwarae'r g锚m ydy Davyth Fear o Lanrug ger Caernarfon. Aeth Davyth a'i wraig, Rhiannon, i ddiwrnod agored yng nghlwb croquet Llanfairfechan yn 2018 a phenderfynu rhoi tro arni a dyn nhw ddim wedi edrych yn 么l ers hynny.

Rheolau - Rules

Dyfeisio - Devise

Yr Ymerodraeth Brydeinig - The British Empire

Cymhleth - Complicated

Naill ai - Either

Hanes croquet yn nhref fach lan y m么r Llanfairfechan yn fan'na ar Bore Cothi.

DROS GINIO NEIL AC ALED ROSSER

Tad a mab, Neil ac Aled Rosser oedd gwestai dau cyn dau efo Dewi Llwyd. Mae'r ddau yn gerddorion ac mae Aled, y mab, yn byw yn y gogledd ac mae Neil yn byw yng Nghaerfyrddin, ac newydd ymddeol o ddysgu. Dyma i chi ran o'r sgwrs ble maen nhw'n s么n am effaith y cyfnod clo ar eu bywyd teuluol...

Cerddorion - Musicians

Turnio pren - Woodturning

Rhingt - Rhwng

Rhwystredig - Frustrating

Ffili - Methu

Heolydd - Ffyrdd

Ddim rhy ff么l - Ddim yn rhy ddrwg

Gweld eisiau - Colli

Aelwyd gerddorol - A musical home

Pwysleisio - To emphasise

A dan ni'n aros efo cerddorion yn y clip nesa. Cafodd Georgia Ruth sgwrs efo'r delynores Catrin Finch.

GEORGIA A CATRIN FINCH
Mae Catrin wedi bod yn perfformio ers blynyddoedd efo Seckou Keita, sy'n canu'r Kora, offeryn o Orllewin Affrica. Mae Catrin a Seckou wedi rhyddhau tair albwm gyda'i gilydd. Ond doedd ei phrofiad cynta o gydweithio efo perfformiwr Kora ddim yn un hapus iawn. Toumani Diabat茅 oedd y perfformiwr ac yn Theatr Mwldan, Aberteifi oedd y cyngerdd. Dyma Catrin yn dweud yr hanes...

Telynores - Female harpist

Offeryn - Instrument

Yn llythrennol - Literally

I ystyried - Considering

Parhau - To continue

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 成人论坛 Radio Cymru,

Podlediad