Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Orffennaf 2022

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Orffennaf 2022

Dros Ginio Beti a Raymond

Mam a mab o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd oedd gwesteion Dewi Llwyd bnawn Llun. Y cyn Aelod Seneddol Betty Williams a’i mab, y Rhingyll , neu Sarjant, Raymond Williams sy’n gweithio i Heddlu Gogledd Cymru.

Cyn Aelod Seneddol - Former Member of Parliament

Yn hen gyfarwydd - Very familiar

Llwyddiant ysgubol - A roaring success

Petrusgar - Hesitant

Y naill a’r llall - One or the other

Trychineb - Disaster

Ffasiwn beth - Such a thing

Am wn i - As far as I know

Serth - Steep

Brwdfrydig - Enthusiastic

ABC Y Geiriadur

Raymond Williams a’i fam Betty yn sôn am ran Raymond yn y gyfres Y Llinell Las.

Taith drwy’r wyddor yng nghwmni Ifor ap Glyn ydy ABC y Geiriadur, i ddathlu canmlwyddiant Geiriadur y Brifysgol - geiriadur mwya Cymru. Mae’r geiriadur ar gael ar-lein erbyn hyn ,ac mae o am ddim! Mae’r awdures Manon Steffan Ross yn gwneud defnydd mawr o’r geiriadur ar-lein fel buodd hi’n sôn wrth Ifor…

Canmlwyddiant - Centenary

Penodol - Specific

Gweddu - To suit

Antur - Adventure

Cyd-destun - Context

Amaethyddol - Agricultural

Mynediad i’r bydoedd - Access to the worlds

Dylsa - Dylai

Stiwdio Phyllis Kinney

Yr awdures Manon Steffan Ross oedd honna’n sôn am sut mae hi’n defnyddio’r Geiriadur ar-lein wrth sgwennu ei cholofn yn Golwg.

Dydd Llun y 4ydd o Orffennaf mi roedd Phyllis Kinney yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed, a buodd ei merch, Eluned Evans yn sôn wrth Nia Roberts am ddyddiau cynnar ei Mam yn America. Mae cerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan enfawr o fywyd Phyllis ers ei dyddiau cynnar yn Pontiac, Michigan. Mi roedd Phyllis a’i gŵr Meredydd Evans, wrth gwrs, yn awdurdod ar ganu gwerin Cymraeg.

Awdurdod ar ganu gwerin - An authority on folk music

Graddau di-rif - Many degrees

Meistr mewn cyfansoddi - Masters in Composing

Sbarduno - To inspire

Parchedig - Reverend

Cyflwyniad - Introduction

Ddaru hi - Wnaeth hi

Gweinidog - Minister

Trwy gyfrwng - Through the medium of

Emynau - Hymns

Gwneud Bywyd Yn Haws - Aids

A phen-blwydd hapus iawn i Phyllis Kinney ynde, yn gant oed ac yn ôl ei merch mewn hwyliau da iawn.
Ar Gwneud Bywyd yn Haws yr wythnos hon buodd Hanna Hopwood a’i gwesteion yn nodi pedwar deg mlynedd ers buodd farw’r Cymro Terrence Higgins – un o’r bobl cynta ym Mhrydain i farw o salwch yn gysylltiedig ag AIDS. Dyma i chi ran o sgwrs rhwng Hanna a Mark Lewis sydd yn Uwch Swyddog Polisi i Grŵp HIV ac AIDS Aelodau Seneddol San Steffan . Dyma’r ddau yn sôn am bodlediad newydd A Positive Life sydd ar gael ar ³ÉÈËÂÛ̳ Sounds .

Yn gysylltiedig ag - Associated with

San Steffan - Westminster

Holl bwysig a chanolog - All important and central

Tyfu lan - Tyfu fyny

Hoyw - Gay

Cwato - Cuddio

Bore Cothi Elinor

Ychydig o hanes Terrence Higgins yn fan’na ar Gwneud Bywyd yn Haws.
Elinor Staniforth o Gaerdydd fuodd yn siarad efo Heledd Cynwal ar Bore Cothi. Dechreuodd Elinor ddysgu Cymraeg yn 2019 ac mae hi wedi derbyn swydd fel Tiwtor Cymraeg efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin ym Mhrifysgol Bangor. Dyma hi’n esbonio pam dechreuodd hi ddysgu’r iaith…

TGAU - GCSE

Rhydychen - Oxford

Tanio - To fire

Pam lai - Why not

Cymdeithasu - To socialise

Yn llythrennol - Literally

Bore Cothi Llangollen
A phob lwc i Elinor ynde, yn ei swydd newydd efo Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin Prifysgol Bangor.
Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ôl ar ôl y cyfnod clo. Mi fydd y dre yn llawn lliw efo cantorion a dawnswyr o bob rhan o’r byd yn cystadlu yn y pafiliwn. Mae’r gyflwynwraig Sian Thomas wedi bod yn arwain y llwyfan cystadlu ers rhai blynyddoedd. Beth sy’n arbennig am yr Eisteddfod hon felly?

Cantorion - Singers

Rhyngwladol - International

Cyflwynwraig - Female presenter

Melin ddŵr - Water mil

Prydferth - Pretty

Ar gyrion - On the outskirts

Tyle - Hill

Cwympo mas - To fall out

Cytûn - In harmony

Atseinio - To echo

Dyletswyddau - Duties

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru,

Podlediad