Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022

Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 23ain 2022

Cofio -

Gwersylla oedd thema Cofio dros y Sul ac mi gaethon ni gyfle arall i glywed Wil Parry Williams o Dregarth yng Ngwynedd, yn sôn am weithio fel Red Coat yng ngwersyll Butlins, Pwllheli rhwng 1954 a 1961. Agorwyd y gwersyll 75 mlynedd yn ôl a chlywon ni’r recordiad arbennig yma am y tro cynta ar raglen Cofio yn 2009.

Gwersylla To camp

Oddeutu About

Ychwanegol Additional

Gan benna(f) Mainly

Adnoddau Resources

Cychod Boats

Adran feithrin Nursery

Adloniant Entertainment

Diddori To entertain

Dyletswyddau cyffreinol General duties

Dei Tomos –
Wel ia, hi di hi yn wir – hanes diddorol Butlins Pwllheli yn fanna ar Cofio.
Aeth Dei Tomos i Aberystwyth i weld llyfrgell bersonol Gerald Morgan sydd yn awdur, ac yn gyn athro a phrifathro. Mi aeth draw i’w gartref a chael gweld rhywbeth prin iawn - copi o Destament Newydd William Salesbury oedd yn dyddio’n ôl i 1567!

Prin iawn Very rare

Rhagair Introduction

Biau To own

Yn gymharol ddiweddar Fairly recently

Casglwyr Collectors

Cofi dre Person o Gaernarfon

O fath yn y byd Of any kind

Bore Cothi -

Dei Tomos oedd hwnna’n cael golwg ar lyfrgell arbennig Gerald Morgan.
Shelley Rees Owen fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ddydd Mercher diwetha ac mi gafodd hi sgwrs efo Daniel Jenkins Jones o’r RSPB am y Pâl neu’r Puffin.

Colur dros eu pig Makeup over their beak

Triongl Triangle

Llachar Bright

Mas yn yr Iwerydd Out in the Atlantic

Nythu To nest

Y bedwaredd ganrif ar bymtheg 19th century

Llongddrylliad Shipwreck

Llygod mawr Rats

Difa To destroy

Beti a’i Phobol -
Bach o hanes y palod yn fanna , bechod eu bod wedi ein gadael ni erbyn hyn ynde?
Cafodd Beti George sgwrs efo’r dylunydd a’r gemydd Ann Catrin Evans o Dregarth ger Bangor. Ann wnaeth Coron Eisteddfod yr Urdd eleni. Dyma Beti’n gofyn iddi hi ai cael gyrfa ym maes celf oedd hi eisiau ei wneud erioed?

Dylunydd a gemydd Designer and jeweller

Coron Crown

Cam i’r tywyllwch A step into the unknown

Celfyddydau The arts

Bywoliaeth A livelihood

Clod Praise

Hybu To promote

Cefnogaeth Support

Cydnabyddiaeth Acknowledgement

Ni y Nawdegau -
Ann Catrin Evans yn siarad efo Beti George am ei gwaith fel dylunydd a gemydd.
Nos Iau ar Radio Cymru, y ddig-rifwraig Esyllt Sears oedd yn edrych yn ôl ar Oes Aur y 90au ...

Digrifwraig Female comedian

Oes aur Golden age

Aberthu To sacrifice

Uchafbwyntiau Highlights

Maeddu Curo

Ymdrechion Attempts

Llwyfannau Stages

Dygymod To put up with

Goroesi To survive

Amherthnasol Irrelevant

Bore Cothi -
Esyllt Sears oedd honna’n edrych yn ôl ar y nawdegau.

Mi roedd hi’n Wythnos y Bandiau Pres ar Bore Cothi ac mi gafodd Shelley Rees Owen sgwrs efo Tomos Evans o Fand Cross Keys, enillodd Dosbarth 4 a 3 yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron. Dyma i chi flas ar y sgwrs,,,

Bandiau pres Brass bands
Llwyddiannus iawn Very successful
Dyrchafu To be promoted
Darnau Pieces
Yn glou Quickly
Crynhoi To summarise

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

14 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru,

Podlediad