Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd yr 8fed 2022

Mirain Iwerydd, Sgidiau, Gogglebox, Hunangofiant, Aberystwyth a Elvis

BETI A鈥橧 PHOBOL - MIRAIN IWERYDD

Y cyflwynydd Mirain Iwerydd oedd gwestai Beti George wythnos diwetha. Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth ydy Mirain ac mae hi鈥檔 cyflwyno Hansh a Stwnsh Sadwrn ar S4C, a鈥檙 Sioe Frecwast Radio Cymru 2 fore Sul. Mae hi hefyd yn cyflwyno rhaglen gerddoriaeth newydd bob nos Fercher ar Radio Cymru. Cefndir Jamaicaidd ac Indiaidd sydd gan fam Mirain a gofynnodd Beti iddi oedd hi wedi profi hiliaeth o gwbl o鈥檙 herwydd鈥

Hiliaeth Racism
O鈥檙 herwydd As a consequence
Dathlu diwylliant Celebrating the culture
Synnu To be surprised
Ffodus Lwcus
(G)wynebu To face
Cymharol Relatively
Cyfryngau cymdeithasol Social media
Becso Poeni
Bodoli To exist

SHELLEY A RHYDIAN

Mirain Iwerydd oedd honna鈥檔 sgwrsio gyda Beti George.
Yr actor, canwr a sylwebydd Rhys ap William oedd gwestai Shelley a Rhydian brynhawn Sadwrn. Rhys oedd yn sylwebu yn Stadiwm y Principality yn ystod y g锚m rygbi rhwng Cymru a鈥檙 Crysau Duon ddydd Sadwrn diwetha ond beth tybed yw hanes y sgidiau arbennig iawn mae e鈥檔 eu gwisgo yn ystod y g锚m?

Sylwebydd Commentator
Y Crysau Duon The All Blacks
Cefnogaeth Support
Rhyngwladol International
Gan amlaf Usually
Dylanwadu To influence

NIA PARRY - GOGGLEBOX
Yn anffodus doedd Rhys ddim yn gallu dylanwadu ar y sg么r ddydd Sadwrn wrth i Gymru golli鈥檔 drwm yn erbyn y Crysau Duon.
Mae Huw Williams o Frynaman yn un o dri brawd (Mike a Stephen yw鈥檙 ddau arall) fydd yn ymddangos ar y gyfres newydd Gogglebocs Cymru cafodd ei weld am y tro cynta nos Fercher diwetha. Nia Parry fuodd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes wythnos diwetha, a chafodd hi sgwrs gyda Huw am y gyfres...

Ymddangos To appear
Cyfres Series
Yr Wyddgrug Mold
Swyddogol Official
Anghytuno To disagree
Hogyn Bachgen
Licsen Baswn i鈥檔 hoffi
Dodi pethau lan Rhoi pethau i fyny
Sbort Hwyl

BORE COTHI - ALED HALL

Hanes y brodyr o Frynaman ar Gogglebox Cymru yn fanna ar raglen Aled Hughes.
Mae鈥檙 tenor o Bencader, Aled Hall, newydd gyhoeddi ei hunangofiant 鈥淥鈥檙 Da I鈥檙 Direidus鈥.
Gofynnodd Shan iddo a oedd cyfnod wedi bod ble roedd e鈥榥 meddwl bod pethau鈥榥 galed, ac ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dilyn y llwybr cerddorol.

Hunangofiant Autobiography
Direidus Mischievous
Y llwybr cerddorol The musical path
Llwyfan Stage
Cyfarwydd 芒 Familiar with
Sa i鈥檔 credu Dw i ddim yn credu
Ystyried To consider
Cynulleidfa fyw A live audience
Braidd dim Hardly any
Annog To encourage

DROS GINIO - DAU CYN DAU

鈥 dw i鈥檔 si诺r bydd hanesion diddorol iawn yn hunangofiant Aled Hall.
Brawd a chwaer o Aberystwyth oedd ar Dau Cyn Dau yn y rhaglen Dros Ginio. Mae Gwenan Creunant yn gweithio i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen ac mae Deian yn gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg. Dyma i chi flas ar y sgwrs鈥

Ymddiriedolaeth Trust
Rhan fwyaf eich oes Most of your life
Bwrlwm Buzz
Amrywiaeth variety
Cymuned glos A close community
Atgofion a magwraeth Memories and upbringing
Tafod ym moch Tongue in cheek
Gwirionedd Truth

BORE COTHI - MARK ADEY

Gwenan a Deian yn fanna yn amlwg wrth eu boddau gydag Aberystwyth.
Mae Mark Adey yn athro Gwyddoniaeth yn ysgol Uwchradd Llanisien, Caerdydd ac mae e hefyd yn ffan mawr o Elvis ac yn perfformio tipyn fel Elvis. Mae e鈥檔 dod o Bontlliw ger Abertawe yn wreiddiol a gofynnodd Shan Cothi iddo a oedd e鈥檔 clywed Cymraeg ar yr aelwyd pan oedd e鈥檔 blentyn.

Gwyddoniaeth Science
Ar yr aelwyd At home
Trwy gyfrwng Through the medium of
Rhyfedd Strange
Cyfarwyddo To become familiar with
Sail Foundation
Dynwared To imitate
Enfawr Huge
Llwyth o Loads of
Addas Appropriate

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 成人论坛 Radio Cymru,

Podlediad