Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Ionawr 10fed 2023

Warner Bros, Rhian Morgan, Nofio Oer, Rhys Meirion, Cwm Rhyd y Rhosyn a Braille.

Aled Hughes – Warner Brothers 5.1

Sefydlwyd y cwmni ffilm Warner Brothers ganrif yn ôl i eleni. Bore Iau cafodd Aled Hughes gwmni Dion Hughes yr adolygydd ffilm i sôn ychydig am y cwmni enwog hwnnw.

Adolygydd Reviewer

Sefydlwyd Was established

Canrif A century

Creu To create

Anferth Huge

Brodyr Brothers

Y dechreuad The beginning

Datblygu To develop

Parhau Continuing

Bodoli To exist

Beti a’I Phobl – Rhian Morgan

Ychydig o hanes cwmni Warner Brothers yn fanna ar raglen Aled Hughes. Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl yr wythnos diwethaf oedd yr actores a’r gomediwraig Rhian Morgan. Dyma hi’n sôn am yr adeg pan fuodd hi’n perfformio yng Nghadeirlan St Paul’s yn Llundain

Y Gadeirlan The Cathedral

Portreadu To portray

Dywediadau Sayings

Llwyfan Stage

Ganwyd Was born

Bri Popular

Credwch neu beidio Believe it or not

Syfrdan Astounded

Dychmygol Imaginary

Pigion Dysgwyr – Nofio Oer 3.1

A Rhian Morgan wedi rhoi dipyn o sioc i gynulleidfa St Paul’s dw i'n siŵr.
Mae llawer o bobl yn dathlu’r flwyddyn newydd drwy fynd i nofio yn y môr, er bod y môr yn oer iawn yr adeg yma o’r flwyddyn. Un sydd wrth ei bodd yn nofio drwy’r flwyddyn, heb boeni am y tywydd, yw Heather Hughes o Ynys Môn. Cafodd hi air gyda Rhodri Lewis ar Dros Ginio bnawn Mawrth a gofynnodd Rhodri iddi hi pam wnaeth hi fentro i’r môr oer yn y lle cyntaf…

Cynulleidfa Congregation

Gwaedlif ar yr ymennydd Haemorrhage on the Brain

Sbïo Edrych

Modd i fyw Great pleasure

Pa mor fodlon How satisfied

Tŷ’d efo fi Dere gyda fi

Anadla! Breath!

Menig Gloves

Pigion Dysgwyr – Rhys Meirion 2.1

Ac mae Heather Hughes yn amlwg yn mwynhau’r profiad o nofio yn y môr oer erbyn hyn.
Mae cyfres newydd o Canu Gyda Fy Arwr wedi dechrau ar S4C, cyfres ble mae Rhys Meirion yn gwireddu breuddwyd aelodau o’r cyhoedd ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ganu gyda’u harwyr. Cafodd Mari Grug gyfle i holi Rhys am y gyfres newydd...

Cyfres Series

Arwr Hero

Gwireddu breuddwyd To fulfil a dream

Aelod o’r cyhoedd Member of the public

Gwyddoniaeth Science

Enwebu To nominate

Darganfyddiad A discovery

Profiad Experience

Atgofion Memories

Anghenraid A necessity

Pigion Dysgwyr – Cwm Rhyd y Rhosyn 4.1

Pa arwr fasech chi’n ei ddewis i ganu gyda chi tybed? Dw i’n siŵr basai llawer ohonoch yn enwi Dafydd Iwan, ac ar raglen arbennig gyda Huw Stephens clywon ni Dafydd ac Edward Morris Jones yn cofio un o recordiau plant mwya econig y Gymraeg, ryddhawyd union bum deg mlynedd yn ôl - Cwm Rhyd y Rhosyn…..

Rhyddhawyd Was released

Magwraeth Upbringing

Rhyfeddol o ffodus Very lucky

Parchedig Reverend

Callach na fi Wiser than me

Diwylliedig Cultured

Olwynion Wheels

Injan ddyrnu Threshing-machine

Boneddiges Gentlewoman

Pigion Dysgwyr – Braille 4.1

Dafydd Iwan ac Edward oedd y rheina'n sôn am y recordiad eiconig Cwm Rhyd y Rhosyn.
Ar Ionawr y 4ydd 1809 cafodd y Ffrancwr Louis Braille ei eni. Fe oedd y dyn ddyfeisiodd y system o ddarllen ag ysgrifennu ar gyfer bobl sydd a nam ar eu golwg neu sy’n ddall. Bore Mercher cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hannah Stevenson sydd yn defnyddio Braille bob dydd.

Nam golwg Visual Impairment

Dall Blind

Sa i’n gallu Dw i ddim yn medru

TGAU GCSE

Dirywio to deteriorate

Cyflwr Condition

Dychrynllyd Frightening

Agwedd Attitude

Casgliad A collection

Gwahanol gyfuniadau Different combinations

Cwtogi To shorten

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

15 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru,

Podlediad