Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Fai 2023

Penblwydd yn 80, Gwleidyddiaeth, Ofergoelion, Coginio, Y Mullet, Caneuon Shanti

Pigion Dysgwyr - Catherine Woodword

Wythnos diwetha ar ei rhaglen cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Catherine Woodward. Roedd Catherine yn dathlu ei phen-blwydd yn 80 oed a dyma Shan yn gofyn iddi hi sut yn union oedd hi am ddathlu’r pen-blwydd arbennig hwn...

Dathliadau Celebrations

Cysylltu To contact

Becso Poeni

Gwisgo lan To dress up

Noswaith i ryfeddu A wonderous evening

Casglu To collect

Bryd ‘ny At that time

Pigion Dysgwyr – Betty Williams

… a gobeithio bod Catherine wedi cael parti gwych on’d ife?
Gwestai Beti George ar Beti a’i Phobl oedd cyn Aelod Seneddol Conwy Betty Williams. Dyma hi’n esbonio wrth Beti pam aeth hi i fyd gwleidyddiaeth yn y lle cynta…

Cyngor Plwyf Parish Council

Cludiant Transport

Pwyllgorau Committees

Yr awydd i gynrychioli The desire to represent

Araith Speech

Oedi To hesitate

Mynwentydd Cemeteries

Llwch llechen Slate dust

Cydymdeimlad Sympathy

Deddfu To legislate
Pigion Dysgwyr – Ifan Gwilym

Y cyn aelod seneddol Betty Williams oedd honna’n sgwrsio gyda Beti George.
Dych chi’n credu mewn ofergoelion? Fasech chi’n cerdded o dan ysgol, neu pasio rhywun ar y grisiau? Carl ac Alun fuodd yn cadw sedd Trystan ag Emma yn dwym yn ddiweddar ac ofergoelion ym myd chwaraeon oedd un o’r pynciau buon nhw’n eu trafod ar y rhaglen. Dyma Ifan Gwilym i sôn mwy am hyn…

Cyn aelod seneddol Former MP

Ofergoelion Superstitions

Twym Cynnes

Tyfu barf To grow a beard

Rownd cynderfynol Semi-final

Hylendid Hygiene

Y garfan The squad

Trwy gydol Throughout

Pigion Dysgwyr – Non Parry

Ifan Gwilym oedd hwnna’n sôn am ofergoelion byd chwaraeon.
Mae cyfres newydd o Ar Blât wedi cychwyn ar Radio Cymru gyda’r cogydd Beca Lyne-Perkis yn cyflwyno. Yn y bennod gynta ddydd Sul Non Parry o’r band Eden oedd y gwestai. Gofynnodd Beca iddi hi beth oedd ei hatgof cynta o goginio…

Atgof cynta First memory

Glöwr Coal miner

Uwchben Above

Arogl Smell

Gallwn i ddychmygu I could imagine

Llanast Mess

Prysurdeb Rush

Hylif Liquid

Unigryw Unique

Pigion Dysgwyr – Mullett

Non Parry yn fanna’n cofio am brofiadau coginio ei phlentyndod.
Beth sydd gan Rod Stewart, Paul McCartney, Dolly Parton a Miley Cyrus yn gyffredin…wel buon nhw i gyd gyda mullet ar un adeg. Dydd Mawrth diwetha ar Dros Ginio cafodd Jennifer Jones sgwrs gyda’r hanesydd ffasiwn Sina Haf i sôn am yr adfywiad sy wedi bod yn y steil gwallt arbennig yma….

Adfywiad Revival

Eitha trawiadol Quite striking

Poblogaidd Popular

Gwar Nape of the neck

Y ganrif gyntaf The first century

Cerflun Statue

Amlwg Obvious

Pigion Dysgwyr – Twm Morys

Wel y mullet amdani felly!!
Bore Iau ar raglen Aled Hughes buodd y bardd Twm Morys yn rhoi ychydig o hanes y siantis môr. Ond oes yna draddodiad canu siantis yng Nghymru? Dyma Twm i sôn mwy…

Traddodiad Tradition

Perchnogion llongau Ship owners

Cyflogi To employ

Cyfandaliadau Shares

Milwyr Soldiers

Emynau Hymns

Mor gyfarwydd â nhw So familiar with them

Gwerin Folk

Amrywio To vary

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

13 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru,

Podlediad