Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 20fed o Fehefin 2023

Interail, Carafanio, Bywyd Tafarnwr, Dysgu Cymraeg, Tyfu Llysiau, Garddio

Pigion Dysgwyr – Dorian Morgan

Bore Llun wythnos diwetha ar ei rhaglen, cafodd Shan Cothi gwmni Dorian Morgan. Mae Dorian newydd ddod yn ôl o daith 60 diwrnod ar draws Ewrop, dyma fe i ddweud mwy am y daith...

Bant I ffwrdd

Cledrau Rails (of railway)

Pasg Easter

Galluogi To enable

Yn ddi-dor Uninterrupted

Pigion Dysgwyr – Trystan ac Emma

Wel cafodd Dorian fargen yn fanna on’d do fe? Dw i ‘n siŵr ei fod wedi gweld nifer o wledydd Ewrop yn y 60 diwrnod yna!
Yn ddiweddar ar raglen Trystan ac Emma clywon ni raglen arbennig i ddathlu’ Campio a Charafanio’. Mae Geth Tomos yn garafaniwr brwd ac esboniodd e wrth Trystan ac Emma pam ei fod mor hoff o’i garafán

Yn ddiweddar Recently

Brwd Enthusiastic

Cerddor Musician

Hafan o heddwch A peaceful haven

Adlen Awning

Troedfedd A foot (measurement)

Pigion Dysgwyr – Carno

Mae Geth Tomos yn amlwg wrth ei fodd yn aros yn ei garafán.
Ym mhentre Carno ym Mhowys mae tafarnwr wedi bod yn tynnu peintiau o gwrw ers 60 blynedd. John Williams yw ei enw ac enw’r dafarn yw Y Tŷ Brith. Craig Duggan aeth draw ar ran Dros Frecwast yn ddiweddar i’w weld..

Llefydd Places

Cofiadwy Memorable

Cyflog Wages

Degawdau Decades

Y gyfrinach The secret

Y gymuned gyfan The whole community

GwÅ·r Menfolk

Pigion Dysgwyr – Vaughan Smith

Pobl Carno oedd y rheina’n sôn am y tafarnwr John Williams.
Daw Vaughn Smith o’r Unol Daleithiau ac mae wedi dysgu Cymraeg i lefel uchel iawn. Mae e wedi bod ar ei daith gynta i Gymru. Ond y peth rhyfeddol am Vaughn yw ei fod yn gallu siarad 36 o ieithoedd!!

Rhyfeddol Amazing

Ffinneg Finnish

Cyfandiroedd Continents

Pigion Dysgwyr – Heledd Fflur

36 o ieithoedd – waw mae Vaughn yn polyglot go iawn on’d yw e? Arbenigwraig garddio rhaglen Caryl yw Heledd Fflur a’r wythnos diwetha ar ei rhaglen esboniodd Heledd wrth Caryl pa lysiau sydd yn dda i’w hau yr adeg yma o’r flwyddyn

Arbenigwraig Expert (female)

Hau To sow

Cnwd Crop

Mewn rhes In a row

Sicrhau To ensure

Hedyn A seed

Tyfiant Growth

Dyfrio To water

Egino To germinate

Cynhesach Warmer

Pigion Dysgwyr – Alwyn Sion

Ac arhoswn ni gyda garddio yn y clip nesa ‘ma. Yr wythnos diwetha roedd y diddanwr Alwyn Sion yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed. Gwahoddodd Shan Cothi e ar ei rhaglen, mae e’n arddwr brwd a dyma fe i sôn am ei lysiau arbennig

Diddanwr Entertainer

Mwy na lai More or less

Canolbwyntio To concentrate

Uchafbwynt Highlight

Efeilliaid Twins

Yr hyd a’r lled The length and breadth

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

11 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru,

Podlediad