Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr 27ain o Fehefin 2023

Penblwydd yn 80, Rhedeg Cwmni, Cyfrifiadureg, Iwerddon, Talwrn y Beirdd, Dysgwyr Wrecsam

Pigion Dysgwyr – Sulwyn Thomas

Gwestai gwadd rhaglen Bore Cothi ddydd Llun wythnos diwetha oedd y darlledwr Sulwyn Thomas. Am flynyddoedd lawer roedd gan Sulwyn raglen yn y bore ar Radio Cymru. Roedd e’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 yn ddiweddar a gofynnodd Shan Cothi iddo fe beth yw cyfrinach cadw’n ifanc ei ysbryd

Darlledwr Broadcaster

Cyfrinach Secret

Ysbryd Spirit

Ffodus Lwcus

Cam bihafio Misbehaving

Newyddiadurwr Journalist

Bant I ffwrdd

Dyfalu To guess

Pigion Dysgwyr – Ann Ellis

Sulwyn Thomas yn fanna’n swnio’n llawer ifancach nag wythdeg oed, a gobeithio iddo fe fwynhau’r dathlu yn Nhŷ Ddewi on’d ife?
Ann Ellis yw un o benaethiaid cwmni Mauve Group sydd ar fin cael ei bresenoldeb cynta yng Nghymru. Mae’r cwmni yn helpu busnesau sefydlu mewn gwledydd newydd ar draws y byd. Yn ddiweddar ar raglen Bore Sul sgwrsiodd Ann gyda Bethan Rhys Roberts a dyma hi‘n sôn am sut dechreuodd y cwmni mewn cwpwrdd yn yr Eidal….

Sefydlu To establish

Ar fin cael About to have

Penaethiaid Heads

Hardd Pretty

Uwchben Above

Pigion Dysgwyr – Richard Hughes

Rhyfeddol on’d ife, fel mae’r cwmni bach wedi tyfu i weithio mewn dros gant o wledydd!
Richard Hughes o Gaernarfon oedd gwestai gwadd Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos diwetha. Mae e wedi bod yn gweithio ym maes cyfrifiadureg a mathemateg ers y 60au. Mae'n rhaglennydd cyfrifiadureg ac wedi gweithio ar systemau ym meysydd awyr Heathrow a Charles de Gaulle. Cynhaliodd Beti y sgwrs ar Zoom a gwrandewch ar be sydd gan Richard i ddweud am hynny…..

Cyfrifadureg Computer science

Rhaglennydd Programmer

Yn ddyddiol Daily

Arbenigo To specialise

Chwedl y Sais As they say in English

Addas Appropriate

Rhan helaeth The majority

Dadansoddi To analyse

Pigion Dysgwyr – Ian Parry

Mae ieithoedd cyfrifiadureg yn swnio’n llawer mwy cymhleth na’r Gymraeg on’d yn nhw?
Buodd Ian Parri’n gweithio fel newyddiadurwr, fel tafarnwr ac fel tiwtor Cymraeg i Oedolion ac nawr mae e newydd gyhoeddi llyfr ar Wyddeldod. Buodd Ian yn gyrru o amglych arfordir Iwerddon am naw wythnos yn ei gartre modur. Dyma fe i sôn mwy am y daith wrth Dei Tomos...

Gwyddelod Irishness

Y Weriniaeth The Republic

Dulyn Dublin

Ymestyn To extend

Y machlud The sunset

Yn ei anterth At its peak

Trefniant swyddogol Official arrangement

Penrhyn Peninsula

Yn ei sgil As a consequence

Pigion Dysgwyr – Talwrn
Ian Parri oedd hwnna’n sôn am ei daith o gwmpas Iwerddon.
Cystadleuaeth rhwng timau o feirdd ydy Y Talwrn a’r wythnos diwetha y ddau dîm oedd yn cymryd rhan oedd Dros yr Aber a Dwy Ochr i’r Bont. Cafodd y rhaglen ei recordio yn Neuadd Bentref Y Groeslon yng Ngwynedd.
Dyma Ceri Wyn Jones yn gosod un o’r tasgau ar gyfer y beirdd…

Mawl Praise

Dychan Satire

Casâf Dwi’n casáu

Hy Audacious

Yr heidiau The swarm

Oedi Staying

Cyn ymlwybro Before making their way

Fe lofruddiaf I will murder

Malwod di-frys Unhurried snails

Ochneidio Groaning

Pigion Dysgwyr – Cor Dysgwyr Ardal Wrecsam

Dw i’n falch mai malwod mae Rhys am eu lladd – ro’n i’n poeni am ychydig pwy oedd e’n mynd i fwrw gyda’r rhaw yna!
Bore Mercher diwetha ar raglen Shan Cothi cafodd Shan gwmni Pam Evans Hughes. Pam yw arweinydd Côr Dysgwyr Ardal Wrecsam, neu Côr DAW, a dyma hi i esbonio mwy am hanes y côr…

Bwrw To hit

Rhaw Spade

Arweinydd Conductor

Cerddorol Musical

Trwy gydol fy oes All my life

Traddodiadol traditional

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

11 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru,

Podlediad