Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 5ed 2023

Dafydd Iwan, Masterchef, Casnewydd, Dreigiau Cadi, Perlysiau, Bronwen Lewis

CERYS MATTHEWS YN HOLI鈥

Roedd Dafydd Iwan yn dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed ar Awst 24 a dydd Llun Gwyl y Banc roedd yna raglen arbennig i ddathlu bywyd Dafydd a Cerys Matthews oedd yn ei holi...

Alawon Tunes

Ystyried To consider

Offerynnau Instruments

Trefniadau Arrangements

Cofnodi To record (in writing)

Barddoniaeth Poetry

Ddim llawer o bwys Dim llawer o ots

Hen dad-cu Great grandfather

Erw Acre

Trosglwyddo To transmit

BORE SUL

鈥e mae Dafydd Iwan yma o hyd 鈥 pen-blwydd hapus iawn Dafydd!
Iwan Griffiths gafodd gwmni鈥檙 cyflwynydd a鈥檙 canwr clasurol Wynne Evans. Mae Wynne yn gallu dweud nawr ei fod yn gogydd enwog yn ogystal 芒 chanwr gan ei fod wedi cyrraedd rowndiau cyn-derfynol y rhaglen deledu 鈥淐elebrity MasterChef鈥 sy鈥檔 cael ei gyflwyno gan Gregg Wallace a John Torode鈥

Cyflwynydd Presenter

Y rowndiau cyn derfynol The semi finals

Alla i ddychmygu I can imagine

Ar waetha hynny In spite of that

Beirniaid Judges

Ieuenctid Youth

Yr her anodda The most difficult challenge

Yn glou Yn gyflym

Fy hunllef My nightmare

BETI A鈥橧 PHOBOL

..ac erbyn hyn mae Wynne wedi cyrraedd y rownd derfynol, a phob lwc iddo fe鈥檙 wythnos yma on鈥檇 ife?
Elin Maher o Gasnewydd oedd gwestai Beti George yn ddiweddar. Mae wedi byw yn y ddinas ers 20 mlynedd ac mae hi wedi gweithio fel athrawes ac ymgynghorydd ym myd addysg ac nawr yn Gyfarwyddwr Rhieni dros Addysg Gymraeg. Mae hi wedi bod yn weithgar iawn yn sicrhau twf addysg Gymraeg yng Ngwent.

Ymgynghorydd Consultant

Cyfarwyddwr Director

Agweddau Attitudes

Ddim o reidrwydd Not necessarily

O blaid In favour of

Brwydr A battle

Dealltwriaeth Understanding

Heb os nac oni bai Without doubt

Cael ei chydnabod Being acknowledged

Diwylliant Culture

FFION DAFIS
Braf clywed bod agweddau tuag at y Gymraeg wedi gwella yng Ngwent on鈥檇 ife, diolch i bobl fel Elin Maher.
Hanna Hopwood fuodd yn cadw sedd Ffion Dafis yn gynnes bnawn Sul. Buodd hi鈥檔 sgwrsio am raglen newydd i blant, Dreigiau Cadi, gyda鈥檙 cynhyrchydd Manon Jones. Roedd y bennod gynta ar S4C ddydd Mercher yn dangos anturiaethau y dreigiau bach drwg Bledd a Cef ar Reilffordd Talyllyn yng Ngwynedd鈥

Cynhyrchydd Producer

Pennod Episode

Anturiaethau Adventures

Dreigiau Dragons

Y gyfres The series

Gwirfoddolwyr Volunteers

Delfrydol Ideal

Rhaglennni dogfen Documentaries

Fel petai As it were

Golygfeydd Scenes

BORE COTHI
Bach o hanes Dreigiau Cadi yn fanna ar raglen Ffion Dafis.
Caryl Parry Jones fuodd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes ar raglen Bore Cothi a dyma i chi ran o sgwrs gaeth Caryl gyda Carol Garddio am dyfu perlysiau...

Perlysiau Herbs

Hyblyg Flexible

Adnabyddus famous

Trilliw Tricolour

Deniadol Attractive

Goresgyn To survive

Llachar Bright

Gwydn Tough

IFAN JONES EVANS
Digon o 鈥榯ips鈥 ar dyfu perlysiau yn fanna gan Carol Garddio.
Y gantores a鈥檙 cyflwynydd radio, Bronwen Lewis, oedd gwestai rhaglen Ifan Jones Evans yn s么n am ryddhau ei sengl diweddara, Un Dau Tri, ac yn s么n hefyd am pam dewisodd hi鈥檙 teitl yma i鈥檙 sengl.

Rhyddhau To release

Diweddara The most recent

Brwdfrydedd Enthusiasm

Cytgan Refrain

Cynulleidfa Audience

Moyn Eisiau

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

16 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar 成人论坛 Radio Cymru,

Podlediad