Main content

Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 13eg o Chwefror 2024

Barry John, Twr Marcwis, Miriam Lynn, Tocsidos Blêr, Canu Gwerin, Canu Opera

Pigion Dysgwyr – Max Boyce

Daeth y newyddion trist wythnos diwetha am farwolaeth Barry John cyn chwaraewr rygbi Cymru a’r Llewod yn 79 mlwydd oed. Roedd yn chwaraewr arbennig iawn a dyma ei ffrind, Max Boyce, yn talu teyrnged iddo fe fore Llun diwetha ar Dros Ginio

Talu Teyrnged To pay a tribute

Wastad Always

Cyfweliad Interview

Cae o Å·d A field of corn

Sa i’n gwybod Dw i ddim yn gwybod

Gostyngedig Humble

Dewin A wizard

Sylw Attention

Amlwg Prominent

Enwogrwydd Fame

Pigion Dysgwyr -Twr Marcwis

A buodd timau rygbi cenedlaethol Cymru a Lloegr yn talu teyrnged i Barry John cyn y gêm fawr yn Twickenham ddydd Sadwrn diwetha. Roedd e wir yn seren on’d oedd e?
Mae tŵr hynafol wedi cael ei ail agor ar lan y Fenai ger Llanfairpwll. Ers dros 10 mlynedd does neb wedi cael cerdded i ben Tŵr Marcwis oherwydd gwaith adnewyddu ar y safle. Cafodd Aled Hughes gwmni rheolwraig y safle Delyth Jones Williams ar ei ymweliad â’r tŵr, a dyma hi’n rhoi ychydig o hanes y Marcwis a’r tŵr...

Tŵr hynafol Ancient Tower

Ail agor To reopen

Adnewyddu To renovate

Anrhydeddu To honour
Clodi To praise

Llawdriniaeth Surgery

Colofn Column

Dehongli To interpret

Yn uniongyrchol Directly

Cefndir Background

Pigion Dysgwyr – Miriam Lynn

Ychydig o hanes Marcwis Môn a’r tŵr enwog yn Llanfairpwll yn fanna ar raglen Aled Hughes.
Miriam Lynn oedd gwestai Beti a’i Phobl yr wythnos hon. Cafodd Miriam ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger yr Wyddgrug yn Sir Fflint ac aeth hi i Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg.
Ar ôl iddi hi raddio gwnaeth hi Ddoethuriaeth yn Newcastle mewn Microbioleg, ond ‘roedd well ganddi weithio gyda phobol, a dyma hi’n sôn wrth Beti am ei gyrfa…..

Difaru To regret

Doethuriaeth Doctorate

Ar y fainc On the bench

Hybu iechyd Promoting health

Caergrawnt Cambridge

Gweithwyr Cymdeithasol Social Workers

Mewn gofal In care

Beichiog Pregnant

Gwerth Value

Pigion Dysgwyr – Caryl

Miriam Lynn oedd honna yn sôn wrth Beti George am ei gyrfa ddiddorol.
Cafodd cân ddiweddara y grwp Tocsidos Blêr o ardal Dinbych ei lansio ar raglen Caryl Parry Jones wythnos diwetha. Dyfan Phillips o’r grŵp gafodd sgwrs gyda Caryl nos Fawrth…..

Diweddara Most recent

Pedwarawd Quartet

Wst ti be? Wyt ti’n gwybod beth?

Fel ‘tae As it were

Bywoliaeth Livelyhood

Yn ein plith Amongst us

Twrnai Solicitor

Dyfalu To guess

Tynnu stumiau Pulling faces

Pigion Dysgwyr – Rhys Mwyn

Wel dyna gymeriadau yw’r Tocsidos Blêr on’d ife? Dw i’n siŵr bod llawer o hwyl i’w gael yn eu nosweithiau.
Nos Lun wythnos diwetha ar ei raglen cafodd Rhys Mwyn gwmni Sara Croesor. Trefnodd Sara gyngerdd yn Neuadd y Dref Llanfairfechan yn ddiweddar gyda’r grwpiau gwerin Pedair a Tant yn perfformio. Dyma Rhys yn gofyn iddi hi sut aeth pethau?

Lleisiau Voices

Dewr Brave

Aelod Member

Cefnogi To support

Awyrgylch Atmosphere

Offeryn Instrument

Sain Sound

Yn fyw Live

Telyn Harp

Cyflwyno To present

Pigion Dysgwyr – Caryl Roese

Ac arhoswn ni ym myd cerddoriaeth ar gyfer y clip nesa ma.
Buodd Caryl Roese o Ystradgynlais yn gantores opera lwyddiannus yn Llundain am gyfnod a buodd hi hefyd yn byw yn Ne Affrica. Mae hi bron yn 87 oed erbyn hyn a dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi yr wythnos diwetha am ei bywyd a’i gyrfa...

Chi’n ‘bod Dych chi’n gwybod
Cerddorfa Orchestra
Arweinydd Conductor
Academi Brenhinol The Royal Academy
Orielau Galleries
Sefyll am Aros am
Disglair Brilliant

Dyddiad Rhyddhau:

Ar gael nawr

13 o funudau

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Dathlu Dysgu Cymraeg 2019

Wythnos o Ddathlu Dysgu Cymraeg ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru,

Podlediad