Tich Gwilym
Mae manylion am ddau CD newydd sbon o ardaloedd chwareli Cymru wedi cyrraedd C2. O Danygrisiau ger Blaenau Ffestiniog daw Straeon y Cymdogion, sef albym newydd Mim Twm Llai, ac o Fethesda daw Defaid William Morgan, sef casgliad aml-gyfrannog o artistiaid yr ardal.
CD o dan ofal 'Pesda Roc' yw Defaid William Morgan sydd wedi'i henwi ar 么l c芒n enwog Hogia Llandegai. Mae'r casgliad yn cael ei ryddhau i gofio am Ron a Now o'r gr诺p ac er cof hefyd am y gitarydd sydd hefyd yn ymddangos arno.
Mae'r CD yn cynnwys llwythi o ganeuon byw wedi'u recordio mewn gwyliau fel Pesda Roc, yn cynnwys fersiwn o Rhagluniaeth Ysgafn gan Gruff Rhys a chaneuon gan Winabego a Bryn F么n. Dyma restr llawn o'r traciau:
1. Defaid William Morgan - Hogia Llandegai
2. Rhagluniaeth Ysgafn - Gruff Rhys
3. Tra Bo Dau - Gwilym Morus a Lowri Cunnington
3. Ti Di Chwarae'r Diafol Allan Ohona i - Mehefin y Cyntaf
4. Grefi - Howget
5. Heddwch 2005 - Brodyr
6. Yn y Nos - Gareth Sion
7. Zvinovaka - Shirimafaro
8. Manteris Llanberis - STIR
9. Diwrnod - Steve Mwg
10. Stop Eject - Celt
11. Eithaf - Alun Tan Lan
12. Lisa L芒n - 9Bach
13. Blaenau Ffestiniog - Llwybr Llaethog
14. Yr Eiliad - Winabego
15. Daear a Haul - Lleuwen Steffan
16. Yn y Niwl - Amledd
17. Bethesda - Geraint Ffrancon
18. GTI - Estella
19. Cadw'r Blaidd o'r Drws - Bryn F么n
20. Porno Lladin - Geraint Jarman
21. Hen Wlad Fy Nhadau - Tich Gwilym
Bydd y CD ar werth yn y Steddfod ym mhabell Pesda Roc ar y maes am 拢10.
CD arall sydd wedi'i dylanwadu gan ardaloedd y chwareli yw un Mim Twm Llai - Straeon y Cymdogion sy'n cael ei lansio yn Sesiwn Fawr Dolgellau ar Orffennaf 15ed. Gafodd Mim Twm Llai lwyddiant enfawr gyda'i albym cyntaf O'r Sbensh felly cofiwch wrando ar Radio Cymru i glywed y caneuon newydd.
am fanylion llawn holl CDs newydd yr haf.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.