Ar ddechrau 2009, mae 'na gyfle i edrych n么l ar pa fandiau Cymraeg oedd fwyaf poblogaidd yn ystod y flwyddyn aeth heibio - dyma Siart C2 2008!
Bob nos Lun ar C2 mae Magi Dodd yn datgelu 10 uchaf Siart C2, sef siart roc, pop a dawns sy'n edrych ar grwpiau mwya poblogaidd yr wythnos. Ond ar ddiwedd pob blwyddyn mae yna siart arbennig yn cael ei datgelu sy'n adlewyrchu bandiau mwya' poblogaidd y flwyddyn!
- Gwibdaith Hen Fran (3)
- Bryn Fon (-)
- Brigyn (-)
- Frizbee (1)
- Elin Fflur (-)
- Eitha Tal Ffranco (-)
- Gai Toms (-)
- Genod Droog (-)
- Gwyneth Glyn (6)
- Derwyddon Dr Gonzo (-)
Felly ar ol dwy flynedd ar frig siart y flwyddyn C2 (nhw oedd ar frig siart y flwyddyn 2006 a 2007) bu'n rhaid i Frizbee ildio eu lle i fand arall o Flaenau Ffestiniog - Gwibdaith Hen Fran! i weld mwy o ffeithiau am Siart C2.
Mae Siart C2 yn seiliedig yn bennaf ar werthiant recordiau mewn siopau drwy Gymru. Mae hi hefyd yn ystyried ymddangosiadau ar y teledu a radio, a gigs.
Cliciwch yma am y siart mwyaf diweddar.
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.