Gyda wythnos y glas arall rownd y gornel, a miloedd o bobl ifanc Cymru yn gadael cartref a mynd i'r brifysgol, mae C2 am wybod pa un yw'r gorau!
Gall blynyddoedd coleg fod y rhai mwyaf cyffrous ym mywyd unrhyw berson ifanc, ac er mwyn manteisio ar yr wythnosau cyntaf o'r cyfnod hwnnw i'r eithaf, mae C2 yn holi beth yw'r pethau gorau a gwaethaf am bob un o brifysgolion Cymru; lle yw'r llefydd gorau i fwyta ac yfed; a llawer llawer mwy!
Galli wrando ar sgwrs Hefin Thomas gyda chynrychiolydd o bob un o'r prifysgolion, yn ogystal a gweld eu tips nhw ar gyfer glas-fyfyrwyr ac ati isod :
Gwrando
Podlediad
Lawrlwytha Pod C2 am ddim - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?
Cyfle arall i glywed holl raglenni C2 o'r saith diwrnod diwethaf.