成人论坛

Darlith Gwyneth Lewis

In order to see this content you need to have both enabled and installed. Visit for full instructions

Gwyneth Lewis, bardd a llenor, a Bardd Cenedlaethol cyntaf Cymru yn 2005

Er mwyn nodi hanner can mlynedd wedi darlith enwog Tynged yr Iaith ar yr hen 成人论坛 Home Service, mae Radio Cymru yn edrych ar amrywiol agweddau tuag at y Gymraeg yn 2012, trwy amrywiol raglenni, gan gynnwys darlith gan bump o Gymry modern a chyfarwydd fydd yn trafod eu barn a'u rhagolygon ynghylch yr iaith. Darlledir y darlithoedd rhain am 12pm.

Oes y Dychymyg

Darlith gan Gwyneth Lewis
Ar gyfer dathliadau 50-mlwyddiant Tynged yr Iaith

Yn nwy fil a thri cefais wahoddiad i Gologne yn yr Almaen gyda grwp o lenorion eraill o'r gwledydd Celtaidd, rhai'n ysgrifennu'n eu hieithoedd brodorol, eraill yn Saesneg. Rwy'n cofio un sesiwn tanllyd, gydag awduron ieithoedd lleiafrifol yn cyhuddo'r rhai uniaith Saesneg o ddilorni eu hetifeddiaeth a'r rheiny'n ymosod yn eu tro trwy gollfarnu niferoedd bychan yr ieithoedd Celtaidd. Gofynnwyd i un bardd sy'n ysgrifennu yn y Wyddeleg i bwy oedd e'n cyfansoddi. "I'r meirw!" medde yntau yn hollol ddifrifol. Aeth y lle'n wallgo gyda rhai'n udo chwerthin ac eraill yn wyllt gandryll. Fi oedd yr unig un o'r cwmni oedd yn cyfansoddi barddoniaeth mewn iaith Geltaidd ac yn Saesneg. Roedd hi'n anodd cael neb i wrando ar y pwynt oedd gen i, sef fy mod i'n teimlo'r gwrthdaro diwylliannol swnllyd oedd ar y llwyfan y tu fewn i'm corff, fel salwch awtoimiwn. Yr unig ffordd y medra i ddioddef y cymhlethdod yw arfer goddefgarwch creadigol gofalus. Wnes i fawr o argraff ar y ddadl, gan fod mwy o hwyl i'w gael o ddatgan rhagfarnau ieithyddol croch. Ond mae'r tirlun diwylliannol mewnol yma'n rhy boenus i fi fedru siarad yn chwyrn. Rwy'n teimlo fy mod i'n droednoeth mewn stafell lle mae gwydr ar lawr, a bod angen symud yn ofalus.

Roedd y bardd o'r Iwerddon yn hollol ddidwyll pan ddwedodd ei fod yn ysgrifennu ar gyfer y meirw. Yn ei ddarlith "Traddodiad a'r Dawn Unigol" mae TS Eliot yn dadlau bod gwaith awdur cyfoes yn ail-ddychmygu ac felly'n newid natur gwaith ei ragflaenwyr. Er enghraifft, mae epig Bobi Jones, Hunllef Arthur yn danfon crynfa ar hyd gwth茂ennau iaith tan fod ceinciau'r Mabinogi yn siffrwd. Mae'n rhagflaenwyr wedi creu llwybrau ieithydddol i ni, ac mae yna ryfeddodau i'w gweld yn y goedwig honno. Ond, mae deall beth yw hi i fod yn fodern yn rhan o dasg beirdd ym mhob cyfnod - tasg sy'n ddryslyd heddiw ar ddechrau'r oes ddigidol. Mae'n rhaid i lenor gwerth ei halen fentro dechrau llwybr newydd drwy'r coed, er bod perygl yr eith ar goll.

Mae'n demtasiwn gweld iaith cyn hyned 芒'r Gymraeg fel endyd naturiol. Serch hynny, technoleg yw iaith. Mae'n hyn na'r malwr cerrig m芒n, na gwn茂o crwyn at ei gilydd i greu cysgod a dillad. Nid oedd llwnc y Neanderthal yn ddigon hyblyg i greu iaith digon soffistigedig i ganiat谩u cyfnewid nwyddau 芒 grwpiau y tu hwnt i'r uned deuluol. Er nad yw iaith yn gadael ffosiliau (ar wahan i ystyron geiriau hynafol) mae'n debyg mai gallu homo sapiens i ddatblygu iaith a chydweithio mewn grwpiau cymdeithasol sy'n gyfrifol am ein llwyddiant. Mae iaith yn dechnoleg mwy sylfaenol i ni fel bodau dynol, gan fod y broses o ddysgu siarad yn cael effaith sylfaenol ar y corff. Pan fo plentyn yn dysgu siarad, mae rhwydwaith o gysylltiadau nerfol a chemegol yn cael eu serio drwy'r ymennydd, gyda'r iaith gyntaf yn gosod y patrwm. (Felly, pan gaf i str么c yn y dyfodol, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd nyrsys Cymraeg eu hiaith yn gweithio'n gyfagos.) Man cyfarfod, felly, fu iaith erioed - sgw芒r y farchnad, os hoffwch chi - gofod rhwng pobl i alluogi bargeinio a chario clecs. Yn hyn o beth, nid yw'r cyfryngau digidol a rhwydweithiau fel Facebook a Twitter yn wahanol o gwbl i'r hyn a ddaeth o'r blaen.

Yn hanes diwylliant, ar 么l iaith ei hun, ysgrifen ac wedyn y wasg argraffu oedd datblygiadau technolegol mwyaf arwyddoc谩ol y canrifoedd diwethaf. Oherwydd gweledigaeth William Salesbury a'r Esgob William Morgan, sicrhawyd holl adnoddau'r Diwygiad ar gyfer y Cymry Cymraeg. Gyda'r Beibl, yr hyn a gyfieithiwyd oedd holl ddychymyg diwinyddol a gwleidyddol y byd Cristnogol.

Nid gwrthrych mo iaith ond cyfrwng - modd i drosgwlyddo gwybodaeth o un meddwl i'r llall. Fel bardd, rwy'n dwlu ar y cyfrwng - dysgu ei weithio yw asgwrn cefn fy mywyd. Ond, er gweathaf fy mhleser mewn iaith, gwn ei fod yn forwyn i'r hyn sy'n cael ei drosglwyddo drwyddi. Mae'r nifer o gyfryngau sydd ar gael i ni heddiw yn ddigon i ddrysu dyn. A ydw i am wylio rhaglen ar ffilm trideg pum milimedr, fideo VHS, DVD, Blueray neu deledu Clirlun. Go brin y byddai neb yn dadlau dros aros ar VHS am resymau sentimental. Rwy'n cofio setiau teledu'r saithdegau 芒'u lluwchoedd eira. Hyd yn oed ar 么l datblygiad camer谩u digidol sy'n rhoi darlun cyfoethog o fewn y system olygu ar gyfrifiaduron, mae meistri'r sinema yn dal i saethu ar ffilm trideg pum milimedr oherwydd y modd y mae cyfuno hyblygrwydd ffocws gyda rheolaeth dros baentio mewn golau. Roedd c么d Morse neu semaff贸r yn iawn ar gyfer sefyllfaoedd rhyfel ond nid oeddynt yn gyfryngau digon cymhleth i greu traddodiad llenyddol. Mae statws cyfrwng, felly, yn dibynu ar i ba raddau gall gyfleu reality y cyflwr dynol. Hanner canrif ar 么l darlledu darlith arloesol Saunders Lewis, Tynged yr Iaith rwy am gynnig y dychymyg fel llinyn mesur diwylliannol a gwleidyddol i ni.

Oherwydd ein bod yn fodau ieithyddol datblygodd dyn y gallu i gynllunio sut i hela trwy ragweld amgylchiadau. I ble roedd y carw'n debygol o redeg? Dyma'r dychymyg fel modd o ddod 芒 chig at y t芒n. Fel rhan o'r gallu hwnnw, roedd angen gweld y byd o safbwynt rhywun arall - y dychymyg eto. Os yw fy nghyfaill yn aros dros y bryn, pa fath o wybodaeth fydd angen arno i ddeall o ba gyfeiriad y daw'r ceirw? Yn ddiweddar cefais y fraint o glywed cyn-newyddiadurwraig flaenllaw yn adrodd hanes gwely angau ei thad. Gan fod ei brawd - a oedd yn derbyn triniaeth am gancr - yn methu bod gyda'i dad, a oedd dioddef o niwmonia - bu'n rhaid i'r ddau siarad trwy gyfrwng ei chwaer. Roedd y tad wedi dioddef str么c, felly roedd angen i rhywun yn yr ystafell edrych ar ei wefusau er mwyn cael ei ddeall. Dywedodd fy ffrind mai trosglwyddo'r negeseuon olaf rhwng tad a mab oedd gwaith pwysicaf ei bywyd. Beth oedd yn allweddol ar yr achlysur hwn oedd bod gywir, yn onest, yn ofalus a, thrwy hynny, yn gariadus. I mi, dyma fodel delfrydol o sut y dylen ni fod yn defnyddio iaith.

Mae darllen darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith yn dipyn o sioc heddiw. Yn 1962, roedd yn disgwyl na fyddai'r iaith yn goroesi tan ddechrau'r unfed ganfrif ar hugain. Beth sy'n syndod yw faint o weledigaeth Saunders Lewis sydd wedi ei wireddu: Deddf Iaith yn rheoli defnydd y Gymraeg yn y sector gyhoeddus, y blaid Dor茂aidd, o bawb, wedi sefydlu ac ariannu S4C, Senedd, o fath, ym mae Caerdydd a'r Gymraeg yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol. Rwy am wynebu her ieithyddol fwyaf y ddarlith yn sgw芒r. Mae Saunders Lewis yn dychmygu Cymru fel llong - y Titanic efallai - gyda diwylliant Seisnig ar y dec uchaf a'r Gymraeg ychydig yn is, ond nid ym mherfedd y bad gyda'r allfudwyr Gwyddelig ac Ewropeaidd. Yn 么l Saunders Lewis

y Weinyddiaeth Addysg bellach sy'n cymell y Cymry
i dyfu'n genedl ddwy-ieithog, gan ennill y gorau o'r ddau fyd, byd,
nid dan yr hatsus yn llwyr, ond ar fwrdd yr ail ddosbarth Cymreig.
Y mae'r rhan fwyaf o lawer o arweinwyr addysg Cymru,
llenorion Cymraeg yn eu plith, yn gweld hyn yn ddelfryd mawrfrydig
a theilwng. Yr wyf innau'n un o'r lleiafrif hurt sy'n gweld ynddo
farwolaeth barchus ac esmwyth ac angladd ddialar i'r Gymraeg.

Wrth gwrs, daw geiriau Gwenallt i'm cof fan hyn, diolch i rhyw eisteddfod cylch ger Pontypridd, am gyflwr Cymru pan fo'r "capten a'r criw yn feddw." Fel un sy'n hwylio, y peth cyntaf a feddyliais i wrth glywed am hyfdra capten y Costa Concordia yn ddiweddar oedd pa mor gyson yw cyfraith y m么r a pha mor chwyrn y gosb am beidio ufuddhau. Ceisiodd Capten Schettino fynd yn agos at y lan, er mwyn brolio faint o reolaeth oedd ganddo dros gwch a chreu sioe i ffrindiau yn y porthladd. Ar y m么r mae rhyfyg yn beryglus. Y drasiedi yw bod pobl eraill wedi talu'r gyda'u bywydau am y fath hyfdra.

Mae ar bob un sy'n siarad Cymraeg heddiw ddyled i Saunders Lewis ond mae'r newid yn safle'r Gymraeg yn golygu mai problemau gwahanol iawn sy'n wynebu'r iaith heddiw. Ar un olwg, mae'r amgylchiadau'n fwy gobeithiol nag yn 1962 - gweler ystadegau cynydd yr iaith yn y De, effaith bositif yr ysgolion Cymraeg a'r buddsoddiad ariannol mewn diwylliant Cymraeg. Ar yr un pryd, rwy wedi gweld pentref yn Nyfed, lle bu fy nhadcu yn brifathro ar ysgol uniaith Gymraeg yn newid bron yn gyfangwbl. Mae gen i ffrindiau yn y pentre, a'u merch nhw, yn naw mlwydd oed, yw'r unig un yn ei dosbath o gartref Cymraeg ei hiaith. Os ydi ymgyrchu iaith wedi bod yn llwyddiant mewn polisi cyhoeddus, mae'r sector breifat wedi gweld newid trychinebus. Meddai Saunders Lewis: "Heddiw ni all Cymru fforddio chwalu carterfi'r iaith Gymraeg. Mae'n nhw'n brin ac yn eiddil" ac mae hyn yn fwy gwir nag o'r blaen. Y gwahaniaeth yma rhwng rhethreg polisi cyhoeddus a'r realiti bywyd gwledig a'm ysgogdd i ysgrifennu Y Llofrudd Iaith, nofel dditectif yn gofyn pwy laddodd yr iaith Gymraeg.

Cefais fy nghodi yng Nhaerdydd ar ddechrau'r chwedegau. Cartref Cymraeg ei hiaith, plant ar y stryd yn ddi-Gymraeg. Rwy'n cofio methu 芒 deall Saesneg, ond ddim yn hir ar 么l pasio fy mhedair mis ar ddeg roedden i'n ddwyieithog. Oherwydd fod gen i berthynas plentyn gyda dwy iaith, rwy'n medru ysgrifennu barddoniaeth yn rhugl yn Gymraeg ac yn Saesneg - ond rwy'n gweithio'n gynt yn Gymraeg.

Mae gan Saunders Lewis bwynt diddorol dros ben am berthynas y Gymraeg ag ardaloedd diwydiannol De Cymru. Mae'n cyfaddef i'r posibilrwydd o gael gwaith atal yr allfudo a laddodd y Wyddeleg ond mae'n nodi:

Ni chyfrannodd yr ardaloedd diwydiannol ddim newydd chwaith i'r
bywyd cymdeithasl Cymreig nac i lenyddiaeth yr eisteddfodau.
trefnasant eu bywyd yn y cymoedd poblog ar lun a delw y bywyd
gwledig a'r capel yn ganolfan iddo.

Dyw hyn ddim yn wir. Bu gwaith Kitchener Davies, Rhydwen Williams a Chylch Cadwgan yn ddylanwad pwysig ar lenyddiaeth diwedd yr ugeinfed ganrif. Ond mae'r sylw yn dal rhyw wirionedd am fywyd Cymraeg y brifddinas yn y chwedegau a'r saithdegau. Capel, ysgol ac Aelwyd yr Urdd - dyna oedd ein bywyd cymdeithasol. Swper am chwech oedd hi yn ty ni - oriau cynnar y wlad. Ond roedd bywyd diwylliannol arall yn cydfynd 芒 hwn. Roedd gen i ddiddordeb mewn dawnsio, felly rhaid oedd mynd at y Sybil Marks and Phil Williams School of Dancing er mwyn dysgu ballet a thap. Roedd gan yr ysgol arddangosfa flynyddol yn neuadd Bindles y Barri, lle bydden ni'r plant yn eistedd ar y llawr yn gwylio ein hathrawes, Miss Babs, yn dawnsio'r pasa doble. Wrth i'r merched hyna basio, bydden ni'n casglu secwinau a'r plu ostrich a fyddai'n disgyn oddi ar eu ffrogiau dawnsio. Hyd yn oed yn 1962, roedd oes y Cymry uniaith Gymraeg, er gwaethaf ewyllys cenedlaetholgar Saunders Lewis, ar ben. Fe gwrddes i 芒 bugail uniaith Gymraeg yn Mhen Llyn yn 1978 ond eithriad digon anarferol i'w nodi oedd hynny. Hunan-dwyll, felly, yw esgus bod modd dychwelyd at rhyw baradwys ieithyddol, fel na pe bai'r rhanfwyaf o'r Cymry Cymraeg heddiw yn naturiol ddwyieithog. Mae'r ewyllys yn medru cyflawnu llawer iawn yn y byd gwleidyddol ond yn greadigol mae'n fwy o elyn nag o ffrind. Os ydych chi'n fardd, ceisiwch fynnu bod cerdd yn ymddangos am naw o gloch rhyw fore Llun, fel pe baech chi'n mynd i'r swyddfa. Na, mewn materion diwylliannol, beth sydd angen yw'r aeddfedrwydd i ddenu geirau allan i chwarae trwy gynnig g锚m yn hytrach na phwyllgor. Dyw diwylliant ddim yn hawl, rhywbeth gorffenedig - mae'n cael ei greu a'i ail-greu bob munud. Fel y m么r, mae ganddo reolau absoliwt: fel y nodais yn achos fy ffrind yn cysylltu ei brawd a'i thad: gonestrwydd, gofal a, thrwy hynny, cyfiawnder. A'r dychymyg yw'r ffordd orau o arfer y tri gyda'i gilydd.

Mae'r dychymyg yn ddwfn yn ein gwreiddiau diwylliannol. Ysgrifennais fy noethuriaeth ar waith Iolo Morganwg. Ei ymateb e i sensoriaeth diwedd y ddeunawfed ganrif (o ganlyniad i'r Arswyd yn Ffrainc ar 么l Chwyldro 1789) oedd dychmygu Gorsedd Beirdd a oedd yn addef daliadau Undodaidd, adain chwith. Ychydig iawn sydd gan Orsedd y Beirdd yn gyffredin 芒'r traddodiad barddol cynharach. Hyd yn oed yn ur unfed ganrif ar ddeg, roedd hi'n arfer gan feirdd ysgrifennu cerddi dadleuol ac esgus mai Taliesin, o'r chweched ganrif, oedd yr awdur. Sefydliad y dychymyg, felly, yw'r Eisteddfod Genedlaethol (ffuglen, chwedl ei gwrthwynebwyr) ac fe fyddwn i'n dymuno gweld ffrwyth llawer mwy o arbrofi diwylliannol o dan ei baner, yn hytrach na'r pwyslais ar warchod arferion a oedd, oherwydd eu natur, yn berfformiadau dros-dro.

Rwy am ddefnyddio priodoleddau'r dychymyg i s么n am yr hyn greda i yw methiant mwyaf fy nghenhedlaeth i o siaradwyr Cymraeg: y gostyngiad trychinebus yn ansawdd rhaglenni a nifer gwylwyr S4C. Roedd sefydlu'r sianel yn 1982 yn ddigwyddiad a oedd, yn ei amser, cyn bwysiced 芒 chyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg. Cafodd y sianel ei hariannu'n hael gan y llywodraeth. Roedd yr her yn un sylweddol. Y gofal cyntaf oedd gwasanaethu cynulleidfa draddodiadol oedd yn heneiddio - cynulleidfa Dechrau Canu, Dechrau Canmol, er enghraifft - gyda rhaglenni coeth, o safon uchel yn anrhydeddu'r gorau o etifeddiaeth geidwadol diwylliant Cymraeg . Yn bwysicach fyth - ond llawer anos - oedd yr angen i ddenu a datblygu cynulleidfa ifanc i'r sianel, a hynny mewn cyfnod pan oedd y cyfryngau digidol rhyngwladol yn gwneud i bopeth arall edrych yn amaturaidd ac anniddorol. Tr茂wch chi ddenu plentyn yn ei harddegau i ddarllen Jane Austen pan fo Vampire Diaries yn y blwch DVD. Methodd rheolwyr y sianel yn y naill a'r llall. Oherwydd newidiadau difeddwl i raglenni traddodiadol, codwyd wrychyn y gynulleidfa hyn, a gwyliodd ieuenctid sianelau eraill.

Dwn i ddim beth ddigwyddodd yn fewnol yn S4C - ac efallai fod hynny'n well, yn gyfreithiol i fi - ond rwy'n gwybod bod her fawr i'w wynebu gyda'r oes ddigidol. Gonestrwydd yn gyntaf. Th芒l hi ddim i ni esgus ein bod yn byw mewn cymdeithas uniaith Gymraeg. Mae gennym bob hawl dewis gwneud popeth yn Gymraeg, wrth gwrs ond mae hynny'n wahanol i anwybyddu realiti ieithyddol Cymru gyfan. Rwy wedi clywed y Prifardd Gwyn Thomas yn dweud nad yw'r Gymraeg yn iaith sydd ar drai pan fo'n barddoni ynddi: mae'n ysgrifennu fel pe bai ar ben llanw ei datblygiad. Mae cywirdeb iaith yn bwysig i fi ond dylem arfer holl sbectrwm ein bywyd yn Gymraeg o'r ceidwadol (Talwrn y Beirdd, er enghraifft) i'r arbrofol, gan gynnwys bratiaith.

Derbyniodd S4C arian cyhoeddus hael iawn. Oherwydd diofalwch gwleidyddol (dwn i ddim pam) mae arweinwyr y sianel wedi bod yn afrad gyda'r cyfalaf diwylliannol a roddwyd iddyn nhw fel braint, nid busnes. Trodd darlledu yn Gymraeg yn eilun yn hytrach na bod rhan o rwydwaith yn ymestyn i'r tir ac allan i'r byd amlieithog amlgyfrwng. Ar un adeg, roedd S4C yn ganolbwynt diwydiant animeiddio oedd yn arddel safonau rhyngwladol, gydag artistiaid o Rwsia yn cynhyrchu gwaith ysgytwol o dda i Gymru. I ble'r aeth y buddsoddiant hwnnw? Mae animeiddio yn un o'r ieithoedd prin hynny sy'n denu llygaid yr ifainc a diddordeb artistiaid ledled y byd. Gallai S4C wedi tyfu stabal o ddarlunwyr a sgriptwyr Cymreig (does dim angen siarad Cymraeg i dynnu llun mewn cartwn Cymraeg) gan greu llwybr i fyd y nofel graffig - maes sy'n ffynu'n greadigol ac sy'n mynd i dyfu'n aruthrol yn y bydysawd digidol. Dyma gyfle a fradwyd.

Cyfiawnder a'r dychymyg. Perygl mawr artistiaid yw eu bod yn defnyddio'r dychymyg i'w twyllo'u hunain. Dyma pam ei bod hi'n bwysig iawn ffrwyno newyn yr ego am fwy na'i si芒r o adnoddau. Er bod S4C yn gorfod dygymod 芒 thoriadau cyllidol, nid yw hwn yn cymharu gyda'r gostyngiad o bron 50 y cant yn y gwariant ar rhaglenni yn Saesneg am Gymru ar y 成人论坛 ac ITV dros y chwe mlynedd diwethaf - cyfyngiad brawychus ar y dychymyg sy'n debyg o ddyfnhau am rai blynyddoedd eto. Mae hyn mewn cyfnod lle mae ITV wedi gorffen cynhyrchu rhaglenni cyffredinol am Gymru yn Saesneg, pan fo papurau newyddion fel y Western Mail yn wynebu pwysau ariannol dybryd - a phan fo mwy o angen nag erioed rhoi gofod i'r eidentiti Cymraeg ddarganfod ei hun yn y ddwy iaith. Dyw haelioni a thegwch byth yn gamgymeriad ac rwy'n gobeithio y bydd prif ddarlledwyr Cymru yn Gymraeg ac yn Saesneg yn datblygu ffyrdd newydd arbrofol i gydweithio.

A'r dychymyg. Mae gan y Cymry rywbeth unigryw i'w gyfrannu yn y byd digidol oherwydd ein hanes arbennig ni. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n meistroli - yn hytrach nag yn cael ein meistroli - gan iaith y w锚. Prif drysor yr unigolyn yn y bydysawd digidol yw ei sylw ac unwaith i ni golli llygaid yr ifainc, fe fydd hi wedi canu arnon ni. Ond, beth bynnag yw'r cyfrwng - cynghanedd, g锚m reslo arlein, diarhebion Trydar - yr un yw rheolau'r dychymyg. Er mwyn cynhyrchu gwaith o safon, mae angen amynedd i fethu, digon o oddefgarwch i arbrofi ac, yn olaf, y gwyleidd-dra i beidio mynd 芒'r llong yn rhy agos at y lan. Y beiddgarwch sydd ei angen nawr yw hawlio'r rhyddid i greu ein traddodiad ein hunan yn cyfuno'r gorau o'r gorffennol a'r dyfodol digidol. Mae'r patrwm yn yn ein llenyddiaeth - dyna wnaeth beirdd y traddodiad Taliesin ac Iolo Morganwg yn cynnal gorsedd ar Fryn y Briallu yn Llundain. Yng ngeiriau'r bardd Americanaidd Ezra Pound:

Yr hyn rwyt ti'n ei garu'n daer sy'n parhau,
sbwriel yw'r gweddill
Ni'th amddifadir di o'r hyn rwyt ti'n ei garu'n daer
Yr hyn rwyt ti'n ei garu'n daer yw dy wir etifeddiaeth.


Amserlen

Ar yr awyr nawr

05:00 Richard Rees

Richard Rees yn cyflwyno'r gerddoriaeth orau o bob cyfnod, o'r 70au a'r 80au hyd heddiw.

Amserlen llawn

Noddwch Dafydd a Caryl yn dringo pum copa Cymru mewn pum diwrnod.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.