³ÉÈËÂÛ̳

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng enw defnyddiwr ac enw arddangos?

Diweddarwyd: 20 Ionawr 2017

Pryd bydd angen enw defnyddiwr arnoch

Os ydych chi dan 13 oed byddwn yn gofyn i chi greu enw defnyddiwr yn hytrach na rhoi eich cyfeiriad e-bost. Byddwch chi'n ei ddefnyddio pob tro er mwyn mewngofnodi.

Bydd yr enw defnyddiwr hwn yn breifat ac ni chaiff ei ddangos yn gyhoeddus ar unrhyw un o wefannau nac apiau'r ³ÉÈËÂÛ̳.

Pryd bydd angen enw arddangos arnoch

Bydd angen i chi greu enw arddangos os ydych chi eisiau gwneud unrhyw beth cyhoeddus ar wefan neu ap yn perthyn i'r ³ÉÈËÂÛ̳. Er enghraifft, os byddwch yn postio llun neu roi sylwadau am stori newyddion gan y ³ÉÈËÂÛ̳.

Bydd eich enw arddangos yn gyhoeddus. Felly mae'n bosibl na fyddwch eisiau defnyddio eich enw go iawn, nac unrhyw wybodaeth arall a allai ddatgelu pwy ydych chi, fel eich rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, enw stryd neu enw ysgol.

Byddwn yn gwrthod unrhyw enwau arddangos sy’n ddigywilydd, yn ein barn ni. Os bydd hynny’n digwydd i chi, dewiswch rywbeth gwahanol.

Change language: