Kate Crockett yn westai
Gwahoddwyd Kate Crockett, cyflwynydd Stiwdio ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru i gyfrannu i'r blog yr wythnos hon. Bydd yn cyfrannu'n rheolaidd yn y dyfodol hefyd.
Deiliad cyntaf Cadair Emyr Humphreys
Ar Stiwdio'r wythnos hon, rydym yn clywed gan ddeiliad cyntaf Cadair Emyr Humphreys ym Mhrifysgol Abertawe - M Wynn Thomas.
Mae'r gadair, sydd wedi'i henwi er anrhydedd i'r nofelydd sydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 90 oed cyn hir, yn gydnabyddiaeth i waith Wynn fel Cyfarwyddwr cyntaf canolfan CREW - Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru.
Ar un adeg, ymylol iawn oedd unrhyw astudiaethau ar lenyddiaeth o Gymru yn adrannau Saesneg ein prifysgolion - ond mae'r darlun wedi gwella dros y blynyddoedd diolch i ymdrechion academyddion fel Wynn.
Ond faint o blant ysgol sydd yn dysgu am lenorion fel Emyr Humphreys, Alun Lewis, ac Idris Davies? Ychydig iawn, meddai wrthyf yn bryderus.
Cerddi R.S.Thomas a rhyw dwts o Dylan oedd yr unig lenyddiaeth Saesneg o Gymru i fi astudio yn yr ysgol ers talwm - byddai'n braf credu bod pethau wedi gwella erbyn hyn.
Awdur ifanc sy'n gwneud ei marc yn Saesneg yn ogystal ag yn Gymraeg yw Catrin Dafydd. Ei bwriad wrth ysgrifennu Random Deaths and Custard oedd portreadu bywyd disgyblion ysgolion Cymraeg y cymoedd - a bellach mae'r llyfr wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth Spread the Word: Books to Talk About 2009.
Aelodau o'r cyhoedd sy'n pleidleisio yn y gystadleuaeth hon - a bydd enw'r llyfr buddugol yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni nos Iau - diwrnod y llyfr.
Pob hwyl Catrin!