³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

O Notting Hill i donnau roc

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 09:14, Dydd Mercher, 11 Mawrth 2009

rhys-ifans-226-127.jpgYn hogan ddrwg y Chwedegau newidiodd Caroline gwrs darlledu ym Mhrydain.


I bobl ifainc y cyfnod a oedd yn awchu am gerddoriaeth bop flaengar ar y tonfeddi yr oedd 'Radio Caroline' yn ddewis cyntaf - yr antidôt i ledneisrwydd y 'Light Programme' gan Anti'r ³ÉÈËÂÛ̳.

Dechreuodd Radio Caroline ddarlledu - yng anghyfreithlon - fis Mawrth 1964 wedi ei sefydlu gan Wyddel o'r enw Ronan O'Rahilly ar long yn y môr ger Felixstowe.

Angorwyd Radio Caroline y gogledd oddi ar arfordir Ynys Manaw a honno oedd i'w chlywed yng ngogledd Cymru.

Ar amrantiad bedyddiwyd y fenter ryfeddol yn 'Pirate Radio' gyda rhai o DJs amlycaf y dyfodol yn caboli eu dawn ar y tonnau, Tony Blackburn yn ymuno a'r criw yn 21 oed fis Gorffennaf 1964 er enghraifft. Un arall o'r morladron oedd Johnnie Walker.

Er yn anghyfreithlon yr oedd Caroline y tu hwnt o boblogaidd a phan gaewyd hi a gorsafoedd eraill a'i hefelychodd yn dilyn pasio'r 'Marine Broadcasting Offences Act' yn 1967 sefydlodd y ³ÉÈËÂÛ̳ Radio 1 yn syth gyda sawl un o'r morladron fel Tony Blackburn, Kenny Everett a John Peel yn cael torri eu cwys eu hunain yn gyfreithlon ar dir sych!

Ar fin ymddangos mae ffilm gan Richard Curtis a fydd yn ail fyw peth o gyffro a rhamant Radio Caroline, The Boat that Rocked gyda'r Cymro, Rhys Ifans (llun uchod) yn chwarae rhan DJ Gavin y mae Americanes a chwaraer gan January Jones yn syrthio mewn cariad ag ef.

Cyfle unwaith eto i arwr 'Notting Hill' wneud ei farc.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.