³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Crafu a phigo

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý,Ìý

Glyn Evans | 11:07, Dydd Mercher, 12 Awst 2009

Be mae rhywun i'w wneud o Colin B Jones?

Er iddo roi'r gorau i sgrifennu i'r Cymro ers sawl pobiad mi gafodd o fwy o sylw yn Eisteddfod Y Bala na sawl un sy'n dal i sgrifennu i'r Wasg Gymraeg.

I'ch atgoffa. Fo oedd y colofnydd clecs nad oedd Y Cymro ei hun i'w weld yn siŵr iawn sut i sillafu ei enw. Weithiau yn Colin B Jones, weithiau'n Colyn B Jones, weithiau'n Colin Pigog dro arall yn Colyn Pigog.

Beth bynnag, er iddo 'farw'n' newyddiadurol rai misoedd yn ôl yr oedd mor fyw ag erioed yn Y Bala lle'r oedd yn destun cystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan Lyn Ebenezer - Deuddeg o ddarnau byrion, crafog yn null Colin B Jones . . . ac yn y blaen.

Ac, yn wir, fe ddarganfu Lyn olynydd a ystyriai'n deilwng i'r Pigog - sef Vaughan Hughes sydd bellach yn un o olygyddion Barn ac yn un o'r cystadleuwyr ar gystadleuaeth newyddiadurol arall yn yr Eisteddfod y dewisodd ei beirniad - William H Owen a fu'n olygydd ar y Colin Jones go iawn yn Y Cymro - atal y wobr ynddi.

Ta beth, a welwn ni'r Colin yn ymuno'n â Barn yn awr ei argyfwng grant presennol?

Yn wir, a fyddai ei wraig yn caniatáu hynny acghos erbyn hyn mae ganddi hithau, Colleen B Jones, ei cholofn ei hun yn y cylchgrawn newydd WA-w! a sefydlwyd gan Lowri Rees-Roberts o Lanuwchllyn - a fu unwaith ar staff Y Cymro.

Ac os cai ddweud, mae hi'n llawer tebycach i'r Colin B o ran arddull na Vaughan Hughes - ond dyna fo mae ganddi hi'r fantais o fod yn rhannu gwely a'r pigwr!

Ac maen nhw'n dweud nad oes yna lawer o fywyd yn y byd newyddiadurol Cymraeg.

Wel os does na ddim bywyd mae na ddigon o grafu a phigo.

Tybed oes gan Colin fab neu ferch . . .?


Rhagor o negeseuon o'r Eisteddfod

Gwefan Eisteddfod 2009

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:47 ar 12 Awst 2009, owen wyn ysgrifennodd:

    Hoffwn ofyn i chwi ysgwyd tipyn ar y cwch i gael Colin B. Jones yn ôl i'r Cymro. Pan fyddaf yn ei dderbyn gan fy chwaer sylwaf ei fod wedi mynd yn beth gwael iawn hebddo. Diflannodd Gwilym Owen i rywle hefyd.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.