Tyngu a rhegi
Tra'r oeddem ni'n troi yn ein hunfan o amgylch Pabell Binc yr wythnos o'r blaen yr oedd Y Byd Go Iawn yn dal i droi hefyd a phethau'n digwydd na wyddem ni ddim byd amdanyn nhw.
Yn wir fe allai rhywun fod wedi llwytho gweddill y ddaear ar gefn lori a'i symud i rywle arall a fyddem ni ddim callach yn Y Bala nes cychwyn am adref a syrthio i'r twll adawyd ar ôl.
Un o'r pethau difyr a gollais i oedd David Cameron yn dweud y gair 'Twat' ar y radio a 'pissed off' wedyn.
Ond y gair cyntaf achosodd helynt gan fod hwn ym marn llawer un rheg yn ormod - yn un rheg y tu draw i deledu.
Ymateb sy'n codi'r cwestiwn, Pryd yn union mae rheg yn peidio â bod yn rheg ar radio a theledu?
Er bod twat yn air bob dydd i nifer fawr o bobl daeth yn amlwg ei fod hefyd yn air na ddylid ei ddefnyddio 'ar yr awyr' gan wleidydd rheng flaen.
Ar y llaw arall fyddai neb wedi dweud dim pe byddai wedi dweud prat (sy'n golygu pen-ôl.
Ond pam?
Beth oedd yn gwneud pissed off yn dderbyniol ond y llall, ddim?
A phe byddai wedi disgrifio rhywun fe; berk go brin y byddai yna gwyno o gwbl er bod hynafiaeth hwnnw yn llawer mwy anweddus. Yn dalfyriad, yn ôl un ffynhonnell o'r rhyming slang, 'Berkshire Hunt' - a go brin bod angen dweud â beth mae hwnnw'n odli.
Nid peth Seisnig yn unig mo hyn, fodd bynnag ac fe glywir yn y Gymraeg hefyd eiriau arferai fod yn rhegfeydd yn ymbarchuso trwy golli grym a'u defnyddio gan ddarledwyr.
Ar y newyddion yn Gymraeg clywyd gohebydd yn dweud ei bod "yn ddiawledig" yn rhywle - gair y byddai Mam wedi fy anfon i i'r gwely efo chwip din am ei ddefnyddio ddyddiau fu.
Daeth gair arall o'r un radd, "uffernol", yn un nad yw gohebwyr mwyach yn ymatal rhagddo hefyd.
Allwn ni edrych ymlaen at y dydd pan na fydd ond pobl hen-ffasiwn fel fi yn aflonyddu yn ein cadair o glywed rhywun yn cael ei ddisgrifio fel aelod o helfa Berkshire ar radio a theledu?