Camp prydydd y Goron
Cyflawnodd Ceri Wyn Jones nid yn unig gamp brydyddol ddoe yn ennill y Goron ond mae o siŵr o fod yr unig brifardd erioed yn hanes yr Eisteddfod i gael ei gadeirio a'i goroni ar yr un cae yn union - gyda deuddeng mlynedd o fwlch rhwng y ddau ddigwyddiad!
Oni bai y gwyddoch chi yn well, wrth gwrs.
A thestun rhywfaint o chwilfrydedd ynglŷn â champ Ceri ddoe oedd ei ffugenw Moelwyn - gan fardd sydd yn cael ei gysylltu mor amlwg â Cheredigion.
"Dyna oedd enw cartref olaf, fel petai, fy nhaid y Parchedig Gwynedd Jones, oedd wedi ei fagu ym Mlaenau Ffestiniog a mynd i Ysgol y Moelwyn," eglurodd,
Roedd cysylltiadau ag union fro'r Eisteddfod hefyd - ar wahân i'r ffaith iddo ennill ei Gadair yn Y Bala yn 1997:
"Roedd fy nhaid yn hanu o Landderfel a'i deulu yntau yn hannu o Landrillo sydd dafliad carreg go lew o'r maes - felly, mae dod yn ôl i Feirion yn arwyddocaol i mi," eglurodd.