Dewiniaeth geiriau
Profwyd yn ystod beirniadaeth y Goron ddoe faint o'r dewiniaid geiriau yn y gynulleidfa oedd yn effro.
Wrth draddodi ei feirniadaeth sicrhaodd y beirniad M Wynn Thomas fod chwe brawddeg gyntaf ei feirniadaeth yn cychwyn gyda llythrennau y gair Coroni.
Cyn ichi ofyn . . .
Oes na goroni i fod?
Rowch saith munud imi.
Nid ar chwarae bach . . .
I ddweud y gwir . . .
Tybed nad oedd yntau yn haeddu rhyw fath o wobr am gyflawni'r fath gamp. Yn sicr nid oes neb sy'n cofio unrhyw feirniad arall yn gollwng y fath gliw.
"Os sylwoch chi, rych chi'n giamster ar groeseiriau. Os fethoch chi sylwi, falle y gwrandewch chi'n fwy astud ar feirniadaeth y flwyddyn nesaf," meddai Mr Thomas wrth gyhoeddi enw'r buddugol.
Ymhlith aelodau'r Orsedd tu cefn iddo ar y llwyfan, tybed a sylweddolodd y Cofiadur beth oedd yn digwydd? Wedi'r cyfan mae John Gwilym Jones yn luniwr croeseiriau o fri!
SylwadauAnfon sylw
CORNI? Ie corni iawn dybiwn i.