Mwy bras na bras
Wn i ddim a ydym ni'n wahanol i unrhyw genedl arall ond tynnodd ymdrech Merched y Wawr i ymestyn llinell hir o frâs yn sownd wrth ei gilydd o amgylch y pafiliwn sylw rhyfeddol.
Yn enwedig ymhlith dynion dros eu canol oed.
Ac yr oedd yn ddiddorol sylwi hefyd mai merched tua'r un oed oedd y rhan fwyaf o'r ymestynwyr brâs ac yn cael hwyl fawr wrth eu trafod.
Beth yn union sy'n gwneud y dilledyn penodol hwn yn destun cymaint difyrrwch a doniolwch mae'n anodd iawn dweud - ac yn y pen draw pwrpas cwbwl ddifrifol sydd y tu ôl i ymgyrch Merched y Wawr ac OXFAM i'w anfon i wledydd tlodion y byd.
Rhyfedd, felly, i Steddfodwyr gymryd y peth mor ysgafn - ac ymddabngos yn hynod blentynaidd ac anaeddfed mewn gwirionedd.
Y gorau y gellid ei ddweud am eu hagwedd oedd i sawl hen ffermwr gwritgoch a chlerc llwydaidd fynd adref o'r Brifwyl i'w bywyd di-liw a gwên ar eu hwyneb!