³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Dyddiadur Nia Lloyd Jones: dydd Mawrth

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 14:46, Dydd Mercher, 2 Mehefin 2010

  • Yn cyfarfod pobl gefn llwyfan i ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru mae Nia Lloyd Jones. Yn ystod yr wythnos bydd yn rhannu ei phrofiadau ar blog 'Cylchgrawn' o'r Eisteddfod.

Holi Elin Jones AC

Dydd Mawrth
Y gystadleuaeth gyntaf ar y llwyfan bore ma oedd cystadleuaeth i gerddorfa neu fand. Mewn gwirionedd fe gawsom ni gyngerdd - gan Ysgol Gynradd Llanerfyl (3ydd), Ysgol Gynradd Llanfairpwll(2il), a'r criw lleol - Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn dod i'r brig. Roedd ganddyn nhw lond llwyfan o offerynwyr dawnus - ac un ohonyn nhw - Ifan yn aelod o Gerddorfa Prydain hefyd.

Llwyddiant mawr
Ddoe fe gafodd Nest Jenkins o Ledrod lwyddiant mawr - cyntaf ar yr unawd telyn, ac ail ar yr unawd piano, a heddiw roedd hi yn ei hol - yn llefaru.

Merch fferm ydi Nest, ac mae hi wrth ei bodd yn helpu gyda'r gwaith adref.
Felly sut hwyl gafodd hi heddiw? Gwobr gyntaf arall at y casgliad.

Mwynhau Karate
Roedd Charlie Lovell Jones yn ei ol eto heddiw hefyd ac fe gafodd o ddiwrnod arall llwyddiannus - gan ddod i'r brig ar y unawd llinynnol. Mae o'n ymarfer am oriau bob dydd, a phan mae ganddo amser iddo'i hun, mae o'n mwynhau Karate, ac yn dipyn o giamstar ar y grefft honno hefyd.

Un wyneb profiadol gefn llwyfan ydi Rhys Meilyr Jones o Langefni.
Dyma chi hogyn bach tawel ac annwyl, ond pan mae o'n dechrau canu - mae'r llais anhygoel o swynol yma'n dod allan.

Disneyland eto
Y llynedd yn ogystal ag ennill gwobr gyntaf, fe gafodd Rhys y cyfle i fynd i Disneyland Paris - diolch i bartneriaeth rhyngddyn nhw a'r Urdd. Ac unwaith eto heddiw fe gafodd Rhys ddwy wobr gyntaf - ac fe fydd o yn cael mynd i Disneyland Paris unwaith eto!Hogyn lwcus iawn, ac roedd y wen fawr yn dweud y cyfan.

Sâl go iawn
Roedd Ysgol Pen Barras yn cystadlu eto heddiw - ac fe ges i sgwrs efo nhw wedi cystadleuaeth y Parti Unsain - sef cyflwyno cân am brofiad y plant yn y ffair - a'r ffaith eu bod nhw'n sâl wedyn. Yn anffodus fe gollodd y parti un aelod heddiw - sef Elan, oherwydd ei bod hi wedi mynd yn sal yn y rhagbrawf, ac wedi gorfod mynd nol i'r garafan. Elan druan.


Trin gwallt

Dw i'n trafod pob math o bynciau gwahanol gefn llwyfan , a 'gwallt' oedd thema'r sgwrs ges i hefo Simon Morris - sydd yn athro cerdd yn Ysgol Gynradd Spittal. Roedd Simon wedi dweud wrth y plant y byddai'n lliwio ei wallt yn las petaen nhw yn cael llwyddiant, a do - fe gawson nhw sawl gwobr yma eleni.

Felly os gwelwch chi ddyn a gwallt glas yn cerdded o gwmpas y maes - Simon fydd hwnnw!

Siaradwyr
Un o'r partion oedd ar y llwyfan yng nghystadlaeuaeth yr ymgom oedd Ysgol Gynradd Parc y Tywyn, Porth Tywyn, ac yn syth wedi iddyn nhw ddod oddi ar y llwyfan fe ges i air hefo Rhydian ac Ailish.

Wel dyma chi siaradwyr gwych - a'r ddau mor ddiolchgar o'r cyfle i fod ar y llwyfan, a'r fraint i wneud hynny am y tro cyntaf yn enw'r ysgol. Fe fydd yr atgof yn un byw iawn iddyn nhw.

Elin JonesRoedd hi'n braf cael gair hefo llywydd y dydd hefyd - sef Elin Jones - Gweinidog Materion Gwledig y Cynulliad.

Merch leol ydi hi - o ardal Llanbedr Pont Steffan, ond erbyn hyn yn byw yn Aberystwyth. Roedd ganddi sawl atgof melys o gystadlu mewn partion a chorau yn yr Urdd, ac ar ddechrau'r wythdegau mae'n cofio'r criw yn dychwelyd adref i Lanbed a'r injan dân yn eu tywys drwy'r dref - i gyfarch y dorf! Dyna be 'di steil go iawn!

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.