Bywyd yn draeth
Bu yna frolio mawr cyn y Steddfod y byddai yna draeth ar Faes Prifwyl Blaenau Gwent - er bod y lle filltiroedd lawer oddi wrth yr arfordir.
Ac yn wir, heb fod yn bell o Fynedfa 2, y mae yna wal felen gyda'r geiriau 'Traeth' a 'Beach' arni hi.
Ac o fentro tu ôl y mae yno lwyfan pren, seti dec streip a digon o dywod i fwydo camel.
Ond does dim tonnau na heli nac aig ychwaith yn nannedd creigiau.
Dim hyd yn oed bwll i badlo.
Fel dwedodd un fam siomedig wrth ei phlentyn, "Mi ddown ni'n ôl pan fydd y llanw'i mewn."
Yr holl ffordd o'r Barri.