Yr Hen Gymraeg
Cerdded o'r car i'r wennol oeddwn i ar Stad Ddiwydiannol Rasau a dechrau sgwrsio gyda dyn cymharol ifanc oedd yn cyd-gerdded â mi. Roedd ei Gymraeg yn rhugl a'i eirfa'n gyfoethog, ond gyda'r mymryn lleia o arlliw anarferol.
"O ble chi'n dod," holais. "O Widnes, yn enedigol, ac yn byw nawr yn Derby. Sais ydw i," atebodd.
Nid oedd unrhyw gysylltiad teuluol ganddo â Chymru - roedd rhyw hen ewythr wedi bod yn yr academi Babyddol yn Aberystwyth yn y tridegau. Ond bu Jonathan Simcock - dyna enw fy nghyd-deithiwr - yn fyfyriwr yn Abertawe a hynny a'i hysbrydolodd i ddysgu Cymraeg.
Dychwelodd maes o law i Gymru i weithio am ychydig ar brosiect arbennig gyda Menter Abertawe. Ond yn awr mae yn ôl yn Sir Gaerhirfryn.
"Ond rwyn gobeithio dychwelyd eto cyn bo hir, efallai i fyw yng nghyffiniau Wrecsam," meddai. "Mae fy ngwraig yn dysgu Cymraeg, nawr, hefyd."
Aeth ymlaen i son am yr holl enwau lleoedd yng Ngogledd Lloegr sy'n deillio o'r Frythoneg. "Pan mae pobol yn gofyn i mi pam rwyn dysgu Cymraeg, rwyn egluro 'mod i am fedru siarad iaith fy hynafiaid yn y rhan hon o Loegr," meddai.
Cefais fy synnu pan ddwedodd wrthyf bod llyfrau swmpus i'w cael am yr enwau lleoedd ac afonydd sy'n tarddu o'r Hen Gymraeg. Dwedodd wrthyf fod Cymdeithas Gymraeg yn Derby ac un fywiog iawn yn Nottingham, gyda llawer o'r aelodau yn siarad Cymraeg.
Falle nad yw'r sefyllfa cynddrwg ag yr ofnwn ar ôl clywed Rhodri Morgan yn dweud na wyddai Tony Blair mai yn Yr Alban y sgrifennodd Aneirin y farddoniaeth hynaf yn y Gymraeg.
SylwadauAnfon sylw
Diolch am y sylw! Dim ond un peth bach. Mi wnes i ddychweled i Swydd Derby nid Sir Gaerhirfryn.
Gyda llaw, mae'r Cylch Dysgwyr Cymraeg Derby yn ail dechrau ar y 14eg o Fedi. gwelir www.derbywelshlearnerscircle.blogspot.com