³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Fawr o chwerthin

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü: ,Ìý

Glyn Evans | 10:32, Dydd Sul, 28 Tachwedd 2010

Adolygydd mewn cylchgrawn Saesneg yn cwyno y dydd o'r blaen cyn lleied o lyfrau doniol neu ddigri sydd ar gael yn yr iaith honno ar gyfer y Nadolig hwn.

Llai nag erioed meddai gyda'r nifer wedi bod yn gyson leihau dros y blynyddoedd diwethaf.

Be sydd wedi digwydd i gyhoeddi llyfrau digri? yw ei alarnad.

Hynny'n peri imi gael golwg beth sydd yna i godi gwên ar ein hwynebau ni y darllenwyr Cymraeg y Nadolig hwn.

Dim rhyw lawer mae'n ddrwg gen i ddweud. Cyfeiriais chydig yn ôl at Hiwmor Pregethwr gan Goronwy Evans - casgliad o jôcs o gyffiniau'r capel a'r mans.

O'r un wasg, Y Lolfa, mae "storiâu hiwmor cefn gwlad" Pwy Fage Ddefaid gan y diddanwr Ifan Gruffydd ac mae gan Y Dyn Dwad ei gyfrol ddiweddaraf, Nefar in Ewrop ond nid at bawb y mae o'n apelio.

Yr ydw i'n edrych ymlaen fwy at gael fy nwylo ar Si Bêi straeon ysbyty Wili Bach Saer gan Geraint V Jones - ei gyfrol o straeon digri gyntaf os dalltis i'n iawn.

Am ryw reswm "Helyntion Wili Bach Wael" mae o'n ddweud yng nghatalog Gwledd y Dolig ond saer ydi o ar glawr y llyfr. Rhywun yn trio tynnu'n coes efallai!

A dyna ni, hyd galla i weld - ond os gwyddoch am eraill anfonwch rhag blaen. Mae'n amser dechrau prynu.

Ond yr argraff rydw i'n gael yw y gallem ni fod wedi gwneud efo llyfr Harri Parri go dda.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.