Pregethu'n hapus
Gyda'r cwestiwn, "Sawl blaenor mae'n gymryd i newid bylb yn y festri?" y cyflwynodd John Roberts ar Bwrw Golwg Tachwedd 7 gyfrol am hiwmor pregethwyr sydd newydd ei chyhoeddi.
Awdur Hiwmor Pregethwr ydi'r Parchedig Goronwy Evans o Lambed a chyhoeddir y llyfr gan Y Lolfa yn y gyfres Ti'n Jocan.
Mae tipyn o ddoniolwch yn help, meddai, i gael neges drosodd i gynulleidfa.
Ychwanegodd bod mwy o hiwmor yn y pulpud heddiw nag a fu.
"A da chi'n disgwyl y bydd y pregethwr yn rhoi rhyw stori neu'i gilydd fydd yn dod â gwên i'r wyneb a pheri ichi chwerthin," meddai.
Dywedodd nad oedd yn ystyried hyn fel dull o osgoi yr hyn a alwyd yn "neges galed" ond yn gymorth i gyflwyno y neges honno yn fwy effeithiol.
Ymhlith y pregethwyr gyda hiwmor y cyfeiriodd atyn nhw yr oedd y diweddar D Jacob Davies a oedd yn llais cyfarwydd ar ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru yn ei ddydd.
Dyfynnodd Goronwy Evans ef yn atgoffa ei gynulleidfa unwaith "mai bugail ydych h chi wedi ei gael - nid ci defaid!"
O ie, 'r ateb i gwestiwn John Roberts gyda llaw:"Sawl blaenor mae'n gymryd i newid bylb yn y festri?"
"Newid?!"
A thra'r ydych yn disgwyl i gael gafael ar Hiwmor Pregethwr beth am gymryd golwg ar y ddalen hon o ddoniolwch y bedwaredd ganrif ar bymtheg - pe na byddai ond er mwyn gweld sut mae hiwmor wedi newid dros y blynyddoedd.
Nid yr un pethau oedd yn peri chwerthin gan mlynedd yn ôl - yn wir, fe dybiwn i bod yna lawer o ochneidio radeg honno!