|
Mae ffraethineb yn newid gyda'r blynyddoedd ac mae hynny yr un mor wir am ffraethineb crefyddol. Dyma ddetholiad o straeon a ystyriwyd yn ddoniol neu ffraeth yr oes a fu!.
Rhagrith crefyddol mewn storm
Y mae tudd hynod mewn dynion llygredig i fod yn hynod o grefyddol pan y byddont mewn rhyw berygl, a bod yn eithaf diofal pan elo y perygl heibio.
Yr oedd gwraig unwaith oedd yn anghynefin â morio, yn dyfod gydag agerlong o Liverpool.
Trwy fod ychydig awel o wynt yn cynhyrfu ychydig ar y llong, yr oedd ofn boddi wedi syrthio arni i'r fath fodd hyd nes oedd yn gweddïo yn ddi-baid tra y parhaodd ei mordaith.
Ond y munud y glaniodd hi yn Beaumaris, y gair cyntaf a ddywedodd ydoedd "Diolch byth am yr hen ddaear anwyl, nid oes eisiau na phader na chredo arni hi."
Atebiad pwysig
"Yr wyf fi yn credu," meddai ymgeisydd am y weinidogaeth amser yn ôl, "fy mod i wedi cael galwad i bregethu."
Atebodd yr hen weinidog oedd yn ymddyddan ag ef, "Y mae yn beth o'r goreu, fy machgen i, i chwi gredu eich bod wedi cael galwad i bregethu; ond rhaid i ni aros ychydig i weled a fydd y bobl yn credu eu bod hwy wedi cael galwad i ddyfod i'ch gwrando chi."
Gormod o benau
Rhanai pregethwr yn ddiweddar ei bregeth i un-ar-ddeg o bennau, ond cyn iddo fyn'd dros eu haner, yr oedd mwyafrif y gunulleidfa yn cysgu.
Pan geryddai y pregethwr y gynulleidfa am eu cysgadrwydd, dywed un cyfaill wrth y llall, "Y mae ganddo ormod o bennau i gael clustiau iddynt oll."
John Evans, Llwynffortun, yn pregethu i'r meingciau gweigion
Un tro pan nad oedd neb yn yr ysgol ond John yn unig, daeth ei athraw, y Parch D. Peters, i mewn, a chafodd y myfyriwr gyda'i hoff-waith yn pregethu yn anwyl.
"John, John," dywedai ei feistr, "pa le y mae y gwrandawyr?"
"Nid wyf yn gwybod yn siŵr, my dear sir, ond eu colled hwy yw hynny."
Cysgadur Trwm
Byddai Williams, Pantycelyn, trwy fod ei feddwl gymaint gyda chyfansoddi Hymnau, yn aml yn cyfansoddi barddoniaeth ym mherfeddion nos, ac yn galw yn fynych, yn mhangfeydd rhyw ddrychfeddwl newydd a ddaethai ato, "Mali, Mali, cannwyll, cannwyll, mae arnaf eisieu ysgrifennu."
Mewn cynhwrf fel hyn, mewn rhyw dŷ, methodd yn lân a deffroi morwyn y tŷ^, oblegid hynny anrhegodd hi yn y boreu a'r pennill canlynol:
Mi wela' 'nawr yn eglur, ped elai clychau'r llan, Ad y felin wynt, a gyrdd y felin ban, A'r badell fawr a'r crochan, i dwmblo hyd y tÅ·^, A'r gwely i Dori tani, mai cysgu wnelai hi.
Herring a Christmas Evans
Ar ddiwrnod tesog yn yr haf cyfarfyddodd John Herring a'r hen Christmas Evans ar ben mynydd.
"Peth rhyfedd ydyw gwel'd ysgadenyn ar ben mynydd," ebe Christmas.
"Peth mor rhyfedd a hynny ydyw gwel'd Nadolig (Christmas) yn nghanol yr haf," ebe Herring.
Cynghor priodol
Aeth gwraig o'r gymdogaeth at Mr (Richard) Humphreys i achwyn er ei gŵr o herwydd rhyw gam-ymddygiad o'i eiddo:
"Wel, aros di," gofynai Mr Humphreys, "beth oeddyt ti yn ei wneyd i'w gythruddo?"
Bu y wraig druan yn ddigon gonest i ddweyd y gwir wrtho. Gwelai Mr Humphreys ei bod wedi rhoddi tramgwydd i'w gŵr, a bod bai mawr arni, a gofynnodd iddi, "A ddywedaist ei fod wedi dy daro di?" "Na, ni tharawodd fi," ebe y wraig.
"Wel fe ddylasai wneyd," ebe yntau.
Felly bu gorfod i'r wraig droi allan heb lythyrau oddiwrth yr offeiriad i lusgo ei gŵr i garchar y tro hwnnw.
Robert Thomas a'r Umbrella
Clywsom iddo yn Ffestiniog gael "benthyg umbrella i fyned adref" [i Drawsfynydd] ar wlaw mawr.
Aeth adref o dan ei gysgod; yna cauodd ef, a chyn hir gwelid ef yn do'd yn ôl a'r umbrella dan ei gesail, er ei bod yn gwlawio yr un fath.
Pennill Mr Williams i Lettis
Flynyddau mawr yn ôl, pan oedd [Y Parchedig John] Mr Williams [Aberduar] yn sefyll ar lan bedd un a fuasai am gyfnod maith yn gorwedd yn ei gwely, gofynnodd un o'i pherthasau (yr hon oedd yno ar y pryd) iddo wneyd pennill i'r ymadawedig.
"Gwnaf," ebai Mr Williams, "ar yr ammod i ti beidio ffromi.
Sicrhaodd ef na wnâi ddigio. Yna esgorodd yr awen ar y pennill ddigrif canlynol: Yma gorwedd Lettis hagar, Lawr yn isel yn y ddaear; Os cara'r bedd fel gwnaeth ei gwely, Hi fydd yr ola'n adgyfodi.
Darluniad Rhys Dafis [Rhys y Goesbren] o'r Meddwyn
"Mae fel tarw topog; mae e fel llyffant torog yn ffos y clawdd; mae ddau lygad e' fel dau ŵy clwc yn ei ben; mae ei ddwy wefus fel dwy ledwad, ac fel pe bae dwy fenyw farfog wedi bod yn ei luo am saith mlynedd; ac fel pe bae wedi bod ar bentan y diawl gyda merch yr hopswr."
|
|