³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Canwr y Byd Caerdydd 2011

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Gwyn Griffiths | 15:48, Dydd Gwener, 18 Mawrth 2011

Anodd credu bod dwy flynedd wedi mynd ers cystadleuaeth ddiwethaf Canwr y Byd, Caerdydd, yn 2009 ond yr ydym yn awr yn edrych ymlaen at yr ornest ddiweddaraf mis Mehefin.

Yn ein tywys ni drwy'r ornest, fel y tro diwethaf, bydd Gwyn Griffiths - a dyma fe yn edrych ymlaen yn awchus:

Canwr o hil gerdd

John Pierce, 28 oed, o Dreffynnon, Sir Y Fflint, fydd cynrychiolydd Cymru, yng nghystadleuaeth ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd, Caerdydd, 2011 fis Mehefin.
John Pierce

Ef fydd yr unig denor yn y gystadleuaeth - nid bod hynny'n fantais nac yn anfantais gan y dewisir y goreuon heb ystyriaethau fel plesio'r gynulleidfa drwy sicrhau amrywiaeth lleisiol yn y rowndiau terfynol.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Treffynnon a'i hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol y Gogledd, Manceinion. Ar hyn o bryd mae'n fyfyriwr yn y Stiwdio Opera Genedlaethol, Llundain, lle mae'n derbyn hyfforddiant uwch gan Ryland Davies.

Hefyd, gyda llaw, yn astudio yn y Stiwdio Opera ar hyn o bryd mae cynrychiolydd Iwerddon, Máire Flavin.

John oedd enillydd y Gystadleuaeth i Gantorion Cymreig 2010, sef y gystadleuaeth i ddewis cynrychiolydd Cymru ar gyfer ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd y flwyddyn ganlynol. Bryd hynny cyflwynwyd y tlws iddo gan ei arwr ac un a ddisgleiriodd yn Canwr y Byd Caerdydd yn y gorffennol, Bryn Terfel.

Bydd John Pierce yn canu yng nghystadleuaeth Gwobr y Gân brynhawn Sul, Mehefin 12 yn y Theatr Newydd, ac yn y brif gystadleuaeth, yn Neuadd Dewi Sant, Nos Iau, Mehefin, nos Fercher, Mehefin 15.

"Y mae'n yn gyfle anhygoel," meddai, "ac yn un sy'n gwneud i mi deimlo'n wylaidd iawn. Yr oedd gan fy nain ar ochr fy mam ddawn gerddorol a chafodd gynnig mynd i Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall pan oedd hi'n 13 oed, ond oherwydd cyfyngder ariannol fedrai hi ddim derbyn y cynnig.

"Etifeddodd fy mam ei dawn gerddorol a bu'n canu gyda chymdeithas opera amatur lleol."

Bydd John yn dilyn Natalya Romaniw, y soprano o Dreforys, a gynrychiolodd Gymru a chyrraedd llwyfan terfynol Gwobr y Gân ddwy flynedd yn ôl.

Cymru yw'r unig wlad sy'n dewis ei chynrychiolwyr drwy gystadleuaeth agored. Y dull arferol yw bod cystadleuwyr yn anfon cais i mewn a threfnir gwrandawiadau mewn 45 o ddinasoedd ledled y Byd. Ar gyfer cystadleuaeth Canwr y Byd 2011 rhoddwyd gwrandawiad i 600 o gantorion.

Ugain o gystadleuwyr

Daw'r ugain cystadleuydd a wahoddwyd i Gaerdydd eleni o Armenia - Vazgen Ghazaryan (bas); Awstralia - Helen Sherman (mezzo-soprano); Bwlgaria - Maria Radoeva (soprano); Canada - Sasha Djihanian (soprano); Chile - Marcela González (soprano); China - Wang Lifu (baritôn);

Cymru - John Pierce (tenor); De Corea - Hye Jung Lee (soprano); Gwlad Pwyl - Szymon Komasa (baritôn); Iwerddon - Máire Flavin (mezzo-soprano); Lloegr - Meeta Raval (soprano); Moldofa - Valentina Naforniţă (soprano);

Romania - Şerban Vasile (baritôn); Rwsia - Olesya Petrova (mezzo-soprano); Seland Newydd - Anna Leese (soprano); Uruguay - Enzo Romano (bas-baritôn); Wcrain - Andrei Bondarenko (baritôn); Yr Almaen - Susanne Braunsteffer (soprano); Yr Eidal - Davide Bartolucci (baritôn); Yr Unol Daleithiau Leah Crocetto (soprano)- .

Cofio Joan Sutherland

Y llynedd bu farw'r Fonesig Joan Sutherland, a fu'n un o feirniaid gwreiddiol y gystadleuaeth, a wedi hynny'n Noddwr y Gystadleuaeth. Eleni, ail-enwir Gwobr y Gynulleidfa - sef gwobr a ddewisir drwy bleidlais y gynulleidfa - yn Wobr y Gynulleidfa, Joan Sutherland.

O Awstralia i Seland Newydd - derbyniodd Y Fonesig Kiri Te Kanawa, y gwahoddiad i fod yn Noddwr newydd y gystadleuaeth.

Yn ogystal â hynny bydd Kiri Te Kanawa yn un o feirniaid newydd y gystadleuaeth ynghyd â'r arweinydd Alexander Polianichko; y cyfarwyddwr cerdd Lorenzo Mariani a'r pianydd Bengt Forsberg. Hefyd yn dychwelyd i feirniadu eto yno y gystadleuaeth fydd y baritôn HÃ¥kan HagegÃ¥rd, y tenor o Gymru, Dennis O'Neill, Adam Gatehouse o ³ÉÈËÂÛ̳ Radio 3 a'r gantores Marilyn Horne, fydd yn beirniadu am y pumed tro.

Bydd enillydd prif wobr Canwr y Byd Caerdydd yn derbyn £15,000, tlws y gystadleuaeth a chael cynnig cytundebau i ganu gyda'r ³ÉÈËÂÛ̳ a Opera Cenedlaethol Cymru.

Bydd enillydd Gwobr y Gân yn derbyn £5000, tlws y gystadleuaeth a'r cyfle i ymuno â chynllun artistiaid ifanc a drefnir gan ³ÉÈËÂÛ̳ Radio 3.

"I ganwr opera ar drothwy gyrfa mae ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd yn gyfle amhrisiadwy," medd Bryn Terfel a enillodd Wobr y Gân, neu Wobr Lieder fel ei gelwid bryd hynny, ym 1989.

"Mae'n agor drysau i chi - fel y gwn i o brofiad. Fe'm gwelwyd i yn canu gan gynrychiolwyr dau DÅ· Opera - y Vienna Staatsoper a ThÅ· Opera Munich - a chefais gynnig gwrandawiad ganddyn nhw'n syth. Yn ddiamau y mae Canwr y Byd Caerdydd yn un o gystadlaethau pwysicaf y byd cerdd clasurol."

Cynhelir y Gystadleuaeth dros y cyfnod Mehefin 12 i 19 yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd gyda rowndiau Gwobr y Gân yn y Theatr Newydd a'r Rownd Derfynol yn Neuadd Dewi Sant.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 11:32 ar 22 Mawrth 2011, Phil Davies ysgrifennodd:

    Gobeithio'n fawr na fydd y darllediad teledu eleni yn dod i ben cyn i ni glywed Hen Wlad Fy Nhadau. Mae'r cantorion buddugol yn cyfeirio at y wefr o glywed yr anthem, ond mae'r rhaglen deledu yn dod i ben bellach cyn yr anthem. Mae modd clywed y diweddglo wrth ail diwnio'n sydyn i Radio Cymru. Pam amddifadu'r gwylwyr o'r wefr? Ofn pechu ³ÉÈËÂÛ̳ Llundain?

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.