³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Geiriau i'w cofio

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Glyn Evans | 08:25, Dydd Gwener, 18 Mawrth 2011

Rhai pethau a glywyd ac a ddarllenwyd yn ystod yr wythnos a fu. Casgliad wythnosol o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.

A beth am rannu ambell i sylw dwys, doniol neu ddifyr a welsoch chi. . .

  • Ei phleser oedd rhannu ei gwybodaeth a'i chariad tuag at hanes a llenyddiaeth - Luned Meredith am a fu farw nos Lun.
  • Cefais e-bost gan fy mam yn gofyn imi ddod adref; ond ar y funud y mae galwad inni gyd gadw'n dawel - Richard O'Shea o Gastell-nedd yn dweud wrth y 'Western Mail' na fydd yn gadael Japan er gwaethaf yr helyntion yno. "Dyw fy nyweddi Hitomi ddim eisiau gadael ei theulu," ychwanegodd.
  • Mewn gwirionedd rydw i'n teimlo chydig fel babi fel pe byddwn i'n dysgu byw unwaith eto -Jemima Phillips, y gyn delynores frenhinol sydd wedi cael y llaw uchaf ar ei dibyniaeth ar gocên a heroin.
  • Sir Y Fflint yw'r maes parcio di dâl mwyaf yn y wlad ar y funud gyda threlars a charafannau yn stopio ym mhobman - Y Cynghorydd Tony Sharps yn cwyno am gyflwr yr A55 ar lannau Dyfrdwy. Mae cwyno hefyd am y gwaith atgyweirio parhaol bron ar yr A55 yn gyffredinol.
  • Hoffi Coffi - yr newydd a agorwyd gan Huw Edwards yn Academi Hywel Teifi ar gampws Prifysgol Abertawe.
  • Mae'n rhaid iddyn nhw fod eisiau bod yn gyfoethog. Does yna ddim byd o'i le bod ychydig bach yn farus - dim byd o'i le yn hynny - Syr Terry Matthews.
  • Fe ddylwn i redeg, ar hyn o bryd dw i'n bwyta ac yfed i gadw'n heini - Darran Phillips, prif swyddog gyda chwmni ariannol yn Llundain, yn '.
  • Cafwyd rhaglen ddifyr ar S4C. Ond, ysywaeth, yr oedd hefyd yn un sylfaenol gamarweiniol a chyfeiliornus - Gruffydd Aled Williams mewn llythyr yn yn rhoi caead yn go sownd ar biser rhaglen ar S4C a ail greodd Ddydd Gwyl Dewi wyneb Owain Glyndŵr.
  • Digon yw digon. Rydw i wedi bod yn fwy nag amyneddgar - Carl Sargeant AC, Gweinidog Llywodraeth Cymru, wrth i ofalu am Gyngor Ynys Môn oherwydd bod y cynghorwyr, meddai, wedi "bradychu'r rhai oedd wedi eu hethol" ac ymarfer "gwleidyddiaeth y maes chwarae".
  • Mae yna garchar yn Lloegr . . . [lle] maen nhw'n cael gwell gwasanaeth teledu na ni yn y cymoedd - Bryn Jenkins o Lynrhedyn - Ferndale - Rhondda Fach, yn cwyno am y gwasanaeth teledu digidol yn y cymoedd.
  • O.N. (i blant Cymru): Peidiwch a thyfu i fyny - 'dyw e' ddim yn dda i'ch iechyd - Cyngor Dewi Pws i blant Cymru yn dilyn blwyddyn fel Bardd Plant Cymru a chael bod "yn grwt deuddeg oed unwaith eto".
  • Mae Gogledd Cymru yn haeddu ei gynnwys fwyfwy o fewn yr hyn sy'n cael ei weld yn rhy aml fel 'bybl Bae Caerdydd' - Nick Bourne AC, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, yn codi llais dros greu Gweinidog Gogledd Cymru.
  • Tair tywysoges Cymru - Y geiriau dan lun yn y 'Western Mail' o Katherine Jenkins, Catherine (Kate) Middleton a Catherine Zeta-Jones.

  • Gethin yn dod a brecwast yn y gwely ichi; nawr dyna beth fyddai bywyd teilwng o dywysoges - Lowri Turner yn sôn am Gethin Jones, cariad Katherine Jenkins, mewn erthygl sy'n mynd efo'r llun uchod.
  • Ni fydd goleuadau'n cael eu diffodd lle mae pryderon am ddiogelwch, er enghraifft canolfannau trefol - Llefarydd Cyngor Sir Penfro ynglÅ·n â i arbed arian.
  • Yr hyn sydd angen iddo'i wneud yw troi pob chwaraewr sydd ar gael iddo yn fersiwn heddiw o Gary Speed - Paul Abbandonato, gohebydd pêl-droed y 'Western Mail' yn crynhoi'r her sy'n wynebu Gary Speed fel hyfforddwr tîm pêl-droed Cymru.
  • Fel chwaraewr, pam na fyddech chi'n ei thrio hi? - Rory Best yn dilyn cais dadleuol Mike Phillips yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.

  • Yr oedd yn anfaddeuol - Brian O'Driscoll, capten Iwerddon .
  • Fe wn i un peth, wnaeth Yr Eidal ddim ffafr o gwbl â ni trwy gu'r Ffrancwyr yn Rhufain ddydd Sadwrn . . . maen nhw wedi cicio nyth cacwn ac fe fydd Ffrainc yn benderfynol o wneud iawn am hynny - Shane Williams yn y 'Western Mail' ddydd Llun.
  • Mae i'r chwaraewyr ddiffyg dewrder. Mae yna fath o lwfrdra - Marc Lievremont, hyfforddwr tîm rygbi Ffrainc, ddydd Sul, ar ôl colli gêm yn erbyn yr Eidal.

  • Rwy'n gofidio am rai o'r pethau a ddywedais fore Sul - Marc Lievremont, ddydd Mawrth.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.