Fel y dwedwyd
Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.
Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig.
Mae Gwyn Griffiths wedi bod yn blogio o gystadleuaeth ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd bob dydd yr wythnos hon.
Nos Wener oedd noson Gwobr y Datganiad gyda doniau'r ifanc yn tanio'r gynulleidfa
Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
Y mae Gwyn Griffiths yn blogio'n ddyddiol o gystadluaeth Canwr y Byd Caerdydd 2011.
Ym mhrif gystadleuaeth ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd 2011 y pump fydd yn cystadlu yn y rownd olaf nos Sul yw:
"Noson anodd y beirniaid," meddai Gwyn Griffiths sy'n blogio bob dydd o'r gystadleuaeth.
Dal i godi'n gyson mae safon cyngherddau ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd a'r sibrydion oedd fod y beirniaid wedi gorfod ennill eu harian wrth geisio dod i benderfyniad neithiwr.
Andrei Bondarenko, y bariton ifanc 24 oed o'r Wcráin gipiodd wobr y noson, gyda'r awgrym fod dwy o'r merched yn agos iawn ato. Mor agos nes i reithgor y beirniaid gyfaddawdu drwy ei wobrwyo ef.
Beth bynnag am hynny, yr oedd Bondarenko - a ganodd yn olaf - yn enillydd y tu hwnt o boblogaidd, a theilwng.
Blog dyddiol Gwyn Griffiths o'r gystadleuaeth
Prynhawn Mawrth
Wythnos y merched?
Gŵyr y rhai hynny ohonom sydd o frîd eisteddfodol ac yn dilyn hynt ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd ar y wefan Gymraeg pwy fydd ar lwyfan terfynol cystadleuaeth y Datganiad ers prynhawn ddoe.
Cyhoeddwyd y pnawn yma pwy fydd y pump, allan o'r 15 oedd yn cystadlu, sy'n canu yn ffeinal Gwobr Datganiad Canwr y Byd Caerdydd y ³ÉÈËÂÛ̳.
Daeth y cyhoeddiad ar ddiwedd yr olaf o'r rowndiau rhagbrofol yn y Theatr Newydd, Caerdydd, y pnawn 'ma.
Ail gyfraniad Gwyn Griffiths o'r gystadleuaeth.
Prynhawn dydd Llun
Y gystadleuaeth yn poethi
Codwyd y safon fymryn eto brynhawn ddoe yn nhrydedd rownd ragbrofol y Datganiad gyda phedwar o gantorion y bydd yn gamp i'r beirniaid swyddogol eu gwahanu.
Braf oedd dianc o'r glaw i gynhesrwydd tywyll y Theatr Newydd ar gyfer cychwyn yr ŵyl a elwir yn ³ÉÈËÂÛ̳ Canwr y Byd Caerdydd 2011. A phrynhawn o bleser cyffrous oedd o.
I gychwyn, yr oedd cynrychiolydd Cymru, John Pierce y tenor llawn afiaith o Dreffynnon, ymysg y cystadleuwyr cyntaf ar y llwyfan yn y gystadleuaeth am y Wobr Datganiad.
Casgliad yr wythnos o sylwadau a welwyd yn y wasg ac a glywyd ar y cyfryngau Cymreig yn ystod yr wythnos.
Ac mae gwahoddiad i chithau anfon rhagor o bethau dwys, difyr a rhyfeddol a glywywyd
Cyfraniad olaf Nia LLoyd Jones, ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru, sydd wedi bod yn blogio o gefn llwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe, gydol yr wythnos . . .
Doedden ni ddim ar yr awyr heddiw tan hanner dydd heddiw, felly mi dreuliais i'r bore yn mynd o un rhagbrawf i'r llall gan weld sawl wyneb cyfarwydd.
Un o'r rhai ar y llwyfan yng nghystadleuaeth yr alaw werin heddiw oedd Laura Blundall o Aelwyd Crymych. Mae Laura wrth ei bodd ar lwyfan, ac mae hi bellach wedi sefydlu Ysgol Berfformio yng Nghilgerran o'r enw Dynamix, felly pob lwc iddi hefo'r fenter honno.
Mae gohebydd ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru, Nia Lloyd Jones, yn blogio bob dydd o gefn llwyfan yr Eisteddfod.
Dydd Iau - diwrnod prysur iawn!
Braf iawn oedd cael sgwrs hefo Gwenllian Llyr ben bore. Mae Gwenllian yn delynores dalentog iawn, ac wedi cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd er pan oedd hi'n ddim o beth.
Newydd fod am frecwast yng Nghaffi Mr Urdd.
Ac un cerddorol iawn oedd o hefyd - a dydw i ddim yn sôn am y bîns chwaith.
Mae Nia Lloyd Jones, ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru, yn blogio'n ddyddiol o gefn llwyfan yn Eisteddfod genedlaethol yr Urdd Abertawe ar gyfer y wefan hon.
Y caneuon actol oedd ar y llwyfan gyntaf bore 'ma, a'r rhai ola i gystadlu oedd Ysgol Gynradd Bodedern.
Ar ôl dod oddi ar y llwyfan mi ges i air efo nhw ac roedd un ohonyn nhw - John Henry wedi mwynhau ei hun gymaint nes ei fod o wedi dod i benderfyniad mawr - mae o isio bod yn actor!
Am dri o'r gloch ddydd Sadwrn ar faes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe bydd aduniad go arbennig yn adeilad Annedd Wen ar y maes.
Bore Mercher
Wel mi roeddwn i wedi gwirioni ac fe gafodd Elin dynnu ei llun hefo Scott Sinclair fel y gwelwch chi ac mi wnes innau ddymuno'n dda i Brendan Rogers - ac mi winciodd arna i!!
Diwrnod da!!
Mae Nia Lloyd Jones o ³ÉÈËÂÛ̳ Radio Cymru yn blogio bob dydd o gefn y llwyfan. Dyma gyfraniad dydd Mawrth.
Gweld y Bliws
Ymddiheuriadau cyn cychwyn heddiw nad oes gen i fawr o luniau -yn anffodus mae'r camera wedi torri, a chyn i neb ddweud dim - nid y fi oedd ar fai!
Wel fe gawson ni lond lle o offerynwyr ar y llwyfan heddiw ar gyfer cystadleuaeth gynta'r dydd - y gerddorfa neu fand blwyddyn 6 ac iau - a dydi o'n syniad gwych bod yr Urdd yn cynnal y rhagbrawf ar y llwyfan, a bod pawb yn cael y cyfle i berfformio yn y pafiliwn?
Roedd hi'n gystadleuaeth dda hefyd , a llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gymraeg Aberystwyth, Ysgol Gynradd Pontrobert ac i griw y 'Blues Brothers' Ysgol Gynradd Llanfairpwll ar ddod i'r brig.
Seiniau Sbaenaidd
Un o'r enwau mwyaf diddorol dwi wedi ei glywed hyd yma ydi enw Steffan Ortega-Davies - oedd yn cystadlu ar yr unawd llinynnol. Sbaenwr ydi tad Steffan ac felly dyna egluro'r enw!
Mae Steffan yn siarad Sbaeneg yn rhugl ac yn chwarae'r soddgrwth (cello), ac wrth gwrs mae o'n rhannu ei enw hefo Steffan arall sydd yn unawdydd o fri - sef Steffan Morris (oedd yn perfformio yn y cyngerdd nos Sul), ac mae Steffan M wedi rhoi ambell i wers i Steffan O D.
Dw i newydd weld Steffan Morris ar y maes hefyd ac mae o erbyn hyn yn astudio yn Awstria, ond yn falch iawn o gael bod adre ar gyfer yr Eisteddfod eleni.
Ymgom dau
Ianto a Mali Elwy enillodd gystadleuaeth yr ymgom heddiw. Brawd a chwaer ydyn nhw o Ysgol Gynradd Bro Aled, ac mi roedd hon yn sioe deuluol go iawn gan mi eu brawd mawr nhw - Morgan oedd yn gyfrifol am eu hyfforddi nhw ar y cyd hefo Magi - sydd yn byw ar draws y cae i'w cartref nhw!
Fe fu Morgan a Magi yn cystadlu yn y gystadleuaeth hon yn y gorffennol hefyd - gan gael llwyddiant mawr, felly braf iawn oedd gweld bod y traddodiad a'r diddordeb yn parhau.
O'r Port
Un o'r ysgolion dwi bob amser yn edrych ymlaen at eu gweld gefn llwyfan ydi Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Dyma chi griw o rafins go iawn! Mi roedd y creaduriaid wedi cael siwrne hir ar y bws o Port, a sawl un a'i stumog yn troi.
Ben oedd y callaf ohonyn nhw - wedi dod i lawr yn y car efo mam gan fynd 'dow dow'!!
A sôn am fynd - dymuniadau gorau i'r prifathro, Ken Hughes - sydd yn ymddeol y Nadolig. Mae o wedi gweithio mor galed yn cefnogi'r Eisteddfod ar hyd y blynyddoedd, a dwi wir yn gobeithio y bydd o dal yn dod i gefn llwyfan am sgwrs.
Mae'r rhai hynny a fynychodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe yn 2006 yn dal iu siarad am gyflwr y maes yr wythnos honno..
³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.