³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Atgof o Eisteddfod Wrecsam 1977

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Elin Dawes Elin Dawes | 14:30, Dydd Iau, 4 Awst 2011

Fel rhan o ddathliadau penblwydd 150 mlynedd yr Eisteddfod fodern, mae 'na lu o weithgareddau i annog ymwelwyr i gofio Eisteddfodau'r gorffennol.

Yn y Ciwb - stondin ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru ar faes y Brifwyl - mae gweithwyr Casgliad y Werin yn dangos fideos archif ar sgrin fawr.

Pan gerddodd Ann Tegwen Hughes o Lanelian, Conwy, i'r Ciwb roedd hi'n teimlo fel bod Tardis Doctor Who wedi ei chario hi yn ôl i'r flwyddyn 1977, y tro diwethaf i'r Brifwyl ymweld â bro Wrecsam. Yn y flwyddyn honno, roedd Ann yn cystadlu fel aelod o Gôr Parti'r Ffin.

Ar gamera ffôn symudol, recordiodd Hazel Thomas o Gasgliad y Werin ymateb Ann wrth iddi gofio ei chyd-aelodau, gan gynnwys Mair Carrington Roberts, Llywydd yr Eisteddfod eleni.

Ìý

Ìý

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit ³ÉÈËÂÛ̳ Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.

Mae cyn-aelodau Côr Parti'r Ffin 1977 yn cael aduniad ar faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Iau, 4 Awst.)

Os am rannu eich atgofion chi, dyma linc at ffurflen ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol

Cofiwch hefyd am wefan Casgliad y Werin ei hun.

Mwy o'r Eisteddfod: Canlyniadau, gwylio'n fyw, straeon, clipiau teledu, blogiau a newyddion o'r Maes.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.