³ÉÈËÂÛ̳

« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Eisteddfod Nia Lloyd Jones - dydd Iau

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü:

Blogiwr Gwadd | 11:48, Dydd Gwener, 5 Awst 2011

Mae Nia Lloyd Jones yn blogio bob dydd o gefn llwyfan yr Eisteddfod.

Un o'r rhai ar y llwyfan yng nghystadleuaeth y llefaru i ddysgwyr bore ma oedd Ian Samways o Pittsburgh.



.
Mae o'n ieithydd o fri, ac yn siarad Rwsieg, Almaeneg, Ffrangeg a Swedeg ac, mae'n debyg, o fod yn awyddus i ddysgu iaith newydd, dyma benderfynu dysgu Cymraeg.

Mae o wedi bod yn mynychu dosbarth Cymraeg yn Pittsburgh a hefyd yn defnyddio'r holl ffynonellau ar-lein.

Mae o'n glamp o foi, ac fe gawson ni glamp o berfformiad ganddo ar y llwyfan hefyd!

Braf iawn oedd gweld enillydd Dysgwr y Flwyddyn ar y llwyfan wedyn - sef Kay Holder.


Kay Holder


Dyma chi siaradwraig benigamp ac os gall unrhyw un ysbrydoli pobl i fynd ati i ddysgu Cymraeg Kay ydi honno.

Mae ei brwdfrydedd tuag at y Gymraeg a'r Eisteddfod yn heintus ac mae hi'n un o'r criw gweithgar sydd yn brysur yn paratoi ar gyfer eisteddfod 2012 ym Mro Morgannwg.
Llongyfarchiadau mawr iddi.

Enillydd yr unawd soprano heddiw oedd Sera Ann Baines - yn wreiddiol o Fryn Saith Marchog, ond bellach yn byw yn Llundain.

A phan nad ydi hi yn canu ar lwyfan mae hi'n gweithio gefn llwyfan yn rheolwr digwyddiadau ac newydd orffen taith Ewropeaidd hefo Take That!

A cyn i chi ofyn, ydi mae hi'n nabod yr hogia ac mae'r ddwy ohonom yn gytun mai Gary Barlow ydi'r gorau!

Un o'r criw gweithgar gefn llwyfan ydi Laura. Mae hi'n gyfrifol am holl dlysau a chwpanau'r Eisteddfod, ond pnawn ma roedd hi'n brysur yn gwnio botwm ar drowsus Arwyn Herald.

Mae'n debyg bod 'rhen Arwyn yn rhuthro gymaint o gwmpas y lle yn trio tynnu lluniau'r cystadleuwyr nes bod y botwm dan y bol wedi ffrwydro. Ac roedd o'n gwybod yn union at bwy i fynd i gael help.

'Dach chi'n gweld, mae gan Laura gwt bach yng nghefn y llwyfan, a does 'na fawr neb yn cael mynd i mewn i fanno. mae'r cwt yn llawn o drugareddau'r Eisteddfod, ac yn eu canol nhw roedd 'na edau a nodwydd!
A diolch byth - mae'r botwm nol yn ei le!

Ac i gloi heddiw, llongyfarchiadau mawr iawn i Meilir Jones o Langefni ar ennill Gwobr Goffa Osborne Roberts pnawn 'ma.


Mae Meilir yn fachgen hynaws iawn, ac am y tro cyntaf erioed doedd o bron ddim yn medru siarad hefo fi ar ôl clywed y canlyniad.

Ond doedd dim rhaid iddo ddweud llawer chwaith, gan fod y wên ar ei wyneb yn dweud cymaint.

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.